Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw cam-drin domestig yn dderbyniol; nid yr unigolion sy'n dioddef trais a chamdriniaeth sydd ar fai ac nid nhw yw'r unig rhai sy'n dioddef. Mae cymorth a chefnogaeth ar gael.

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn

Gall Byw Heb Ofn ddarparu cymorth a chyngor ar gyfer:

  • unrhyw un sy'n dioddef cam-drin domestig
  • pobl sy'n adnabod rhywun sydd angen cymorth.Er enghraifft, ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr
  • ymarferwyr sydd am gael cyngor proffesiynol

Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Ffoniwch: 0808 80 10 800

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth

Testun: 07860077333

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y gwasanaeth neges destun

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru 

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y gwasanaeth e-bost

Gwasanaeth sgwrsio byw

Cwestiynau cyffredin

Cyngor ar berthynas gamdriniol

Aros yn ddiogel

Os ydych chi'n pryderu am eich lles neu'ch diogelwch ac angen cyngor a chymorth, ffoniwch ni ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.

Os ydych chi'n pryderu am blentyn yn benodol, cysylltwch â Llinell Gymorth y NSPCC - 0808 800 5000

Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel

Os nad ydych chi’n teimlo’n ddiogel a’ch bod am wybod beth yw’ch opsiynau, neu os ydych chi angen lle diogel mewn argyfwng, ddydd neu nos, ffoniwch Linell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800. Mae’r Llinell Gymorth ar agor 24 awr y dydd a gallwch chi gael eich rhoi mewn cysylltiad â llety diogel mewn argyfwng trwy rwydwaith cenedlaethol o lochesi ledled Cymru a’r DU.

Mae’r Llinell Gymorth ar gyfer unrhyw un sy’n dioddef neu sydd wedi dioddef cam-drin domestig, neu unrhyw un sy’n poeni bod ffrind, aelod o’r teulu neu gydweithiwr yn dioddef cam-drin domestig. Mae’r Llinell Gymorth yn gyfrinachol ac am ddim, ac ni fydd y rhif yn ymddangos ar fil ffôn.

Os ydych chi’n blentyn neu’n unigolyn ifanc

Gallwch chi hefyd ffonio ChildLine ar 0800 1111. Mae’r Llinell Gymorth hon yn gyfrinachol ac am ddim, ac mae’n helpu pobl ifanc o bob oed o bob cwr o’r DU sy’n poeni neu’n teimlo eu bod nhw mewn perygl.

Cadw’ch hun yn ddiogel

Mae gwneud cynllun diogelwch personol yn ffordd dda o’ch diogelu chi a’ch plant ac mae’n eich helpu chi i gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y posibilrwydd o drais neu gamdriniaeth yn y dyfodol.

Mae cynllun diogelwch yn eich helpu chi i feddwl am sut y gallwch chi wneud eich hun yn fwy diogel, boed hynny yn y berthynas neu os byddwch chi’n penderfynu gadael.

Ni allwch reoli’ch camdriniwr na’r gamdriniaeth; dim ond y camdriniwr sy’n gallu gwneud hynny. Ond gallwch chi newid y ffordd rydych chi’n ymateb i’r gamdriniaeth a chymryd camau i’ch gwneud chi’n fwy diogel. Efallai eich bod chi eisoes wedi rhoi cynnig ar wahanol strategaethau a bod rhai ohonyn nhw’n gweithio o bryd i’w gilydd.

Dyma rai cwestiynau i’ch rhoi chi ar ben ffordd:

  • Pryd ddigwyddodd yr achos diweddaraf o drais neu gamdriniaeth? Pa mor aml, pa mor ddifrifol, ble/pryd? A oes unrhyw batrymau?
  • Beth ydych chi’n ei wneud ar hyn o bryd i’ch cadw chi a’ch plant yn ddiogel? Beth sy’n gweithio orau?
  • A oes gennych chi rifau ffôn pwysig wrth law e.e. teulu, ffrindiau?
  • A yw’r plant yn gwybod sut i gysylltu â ffrindiau/teulu?
  • A allech chi addysgu eich plant i ffonio 999 mewn argyfwng, a’r hyn y byddai angen iddyn nhw ei ddweud (e.e. eu henw llawn, cyfeiriad a rhif ffôn).
  • Pwy allwch chi siarad â nhw am y trais - rhywun na fydd yn dweud wrth eich partner/cynbartner?
  • A oes gennych chi gymdogion y gallech chi ymddiried ynddyn nhw ac y gallech chi fynd atyn nhw mewn argyfwng? Os felly, dywedwch wrthyn nhw beth sy’n digwydd a gofynnwch iddyn nhw ffonio’r heddlu os byddan nhw’n clywed sŵn ymosodiad. Ystyriwch sefydlu arwydd sy’n golygu y dylen nhw ffonio’r heddlu.
  • A oes yna air neu god y gallwch chi gytuno arno gyda ffrind fel ei f/bod yn gwybod y dylai  ffonio’r heddlu os yw’n eich clywed chi’n dweud y cod hwnnw neu os byddwch chi’n anfon y cod ato/i mewn neges destun? 
  • Pe baech chi’n gadael, i ble allech chi fynd? Beth pe bai hi’n nos?
  • Ydych chi’n gwybod ymlaen llaw bod eich partner yn mynd i fod yn dreisgar? E.e. ar ôl bod yn yfed, ar ôl cael eu talu, ar ôl i berthnasau ymweld â chi?
  • Pan rydych chi’n amau bod eich partner yn mynd i fod y dreisgar, a allwch chi fynd i rywle arall? Os na, a oes rhywle yn y tŷ sy’n fwy diogel? (e.e. rhywle na allwch chi gael eich dal, lle mae llai o arfau ac ymylon caled)
  • A allwch chi gadw hen ffôn symudol a’i guddio i’w ddefnyddio mewn argyfwng os bydd eich ffôn presennol yn cael ei dorri?
  • Pa ran o’ch tŷ sydd fwyaf peryglus i chi pan fo’ch partner yn dreisgar?
  • A oes rhywle y gall eich plant fynd iddo pan fo’ch partner yn bod yn dreisgar?
  • A allwch chi ddechrau arbed arian yn annibynnol ar eich partner?
  • A allwch chi ymarfer cynllun dianc, fel y gallwch chi a’r plant ddianc yn ddiogel mewn argyfwng?
  • A allwch chi gadw copïau o bapurau pwysig gyda rhywun arall? E.e. pasbort, tystysgrifau geni, llyfr budd-daliadau?
  • A yw hi’n ddiogel i chi bacio bag ar eich cyfer chi a’ch plant a’i guddio mewn man diogel (e.e. yn nhŷ cymydog neu ffrind)?

Os ydych chi angen help, gall Llinell Gymorth Byw Heb Ofn eich rhoi chi mewn cysylltiad â gwasanaeth priodol yn eich ardal i’ch helpu chi i ddatblygu cynllun diogelwch.

Gadael y camdriniwr

Y peth pwysicaf yw i chi adael yn ddiogel. Efallai y byddwch chi’n teimlo mai’r hyn y dylech ei wneud yw dod â’r berthynas i ben yn breifat wyneb yn wyneb, ond mae’n fwy diogel i chi adael pan nad yw’ch camdriniwr o gwmpas.

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig, mae penderfynu a ddylech chi aros neu adael y berthynas yn gallu bod yn benderfyniad anodd iawn, gydag ystyriaethau emosiynol ac ymarferol. Efallai y byddwch chi’n poeni am golli teulu neu ffrindiau hefyd os byddwch chi’n gadael.

Dim ond diwedd y berthynas yw gadael partner treisgar yn aml – ni fydd y trais neu’r gamdriniaeth yn dod i ben o reidrwydd. Anaml iawn y bydd y camdriniwr yn dod â’r berthynas i ben; yn y rhan fwyaf o achosion, maen nhw eich angen chi fwy yn seicolegol nag yr ydych chi eu hangen nhw.

Maen nhw’n gallu bod yn dda am guddio eu dibyniaeth arnoch chi a’u pryder am eich colli chi. Os ydych chi’n aros neu’n gadael, mae’n bwysig bod gennych chi gynllun diogelwch neu argyfwng i’ch helpu chi i gadw’n ddiogel. Os ydych chi’n dioddef unrhyw fath o gam-drin domestig, dylech chi ystyried llunio cynllun argyfwng.

Cynllun argyfwng

Mae cynllun argyfwng yn gallu amlinellu’r hyn y gallech chi ei wneud o dan amgylchiadau penodol i helpu i leihau’r perygl o anaf emosiynol neu gorfforol i chi (ac i’ch plant).

Gall eich cynllun gynnwys ffyrdd o leihau’r perygl i chi gan eich camdriniwr, neu efallai y bydd yn amlinellu sut y gallech chi ddianc. Gallwch chi lunio cynllun argyfwng ar eich pen eich hun neu gallwch chi siarad â ffrind neu weithiwr cam-drin domestig. Hyd yn oed os nad ydych chi’n bwriadu gadael ar hyn o bryd, mae llunio cynllun argyfwng yn ffordd dda o deimlo eich bod chi’n rheoli’ch bywyd a rhoi mwy o hyder i chi.
Os oes amser gennych chi, ceisiwch fynd â chymaint o’r eitemau a restrir isod ag sy’n briodol gyda chi. Eich diogelwch chi ddylai gael blaenoriaeth, felly peidiwch â chymryd yr eitemau isod os nad oes amser. Dim ond awgrymiadau sydd yn y cynllun gweithredu hwn, a gallwch chi ei newid neu ychwanegu ato er mwyn iddo fod yn addas i chi.

Os ydych chi’n cynllunio cyn y diwrnod rydych chi’n bwriadu gadael, gofalwch eich bod chi’n cuddio’r eitemau hyn mewn man diogel lle na fydd eich camdriniwr yn dod o hyd iddyn nhw. Yn achos dogfennau, bydd y dogfennau gwreiddiol yn fwy defnyddiol ond, os nad ydych chi’n teimlo’n ffyddiog yn eu cymryd nhw, tynnwch luniau ohonyn nhw ac anfonwch nhw fel atodiadau i gyfeiriad e-bost diogel y gallwch chi gael mynediad ato mewn unrhyw leoliad (cofiwch ddileu’r lluniau).

  • Nodwch rywle y gallwch chi ddefnyddio ffôn ar frys (cymydog? perthynas? cysylltiadau eraill?) rhag ofn y byddwch chi’n anghofio’ch ffôn symudol neu ei fod wedi torri.
  • Gwnewch restr o rifau ffôn i’w defnyddio mewn argyfwng, gan gynnwys ffrindiau, perthnasau, yr heddlu lleol, Cymorth i Ferched Cymru, Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (os ydych mewn panig mae’n hawdd anghofio’r rhifau ffôn mwyaf cyfarwydd hyd yn oed) a chadwch hi gyda chi bob amser.
  • Ceisiwch gadw rhywfaint o arian wrth gefn ar gyfer costau bws, trên, tacsi.
  • Gofalwch fod gennych chi set ychwanegol o allweddi ar gyfer y tŷ, car ac ati.
  • Cadwch yr allweddi, arian a dillad ar eich cyfer chi a’r plant wedi’u pacio mewn bag fel y gallwch chi adael ar frys.
  • Esboniwch wrth y plant sydd ddigon hen i ddeall ei bod yn bosibl y bydd rhaid i chi adael ar frys ac y byddwch chi’n mynd â nhw gyda chi neu’n trefnu iddyn nhw ymuno â chi. Trafodwch y trefniadau dianc.

Os oes gennych chi fwy o amser i gynllunio, gwnewch gymaint o’r pethau canlynol â phosibl:

  • Ewch â’ch plant i gyd gyda chi; bydd hi’n anoddach eu cael nhw’n ôl yn ddiweddarach os byddwch chi’n gadael hebddyn nhw. Os ydyn nhw yn yr ysgol, gofalwch fod y pennaeth a holl athrawon eich plant yn ymwybodol o’r sefyllfa a phwy fydd yn casglu’r plant yn y dyfodol.
  • Ewch â’ch papurau cyfreithiol ac ariannol gyda chi, gan gynnwys tystysgrifau priodas a geni, gorchmynion llys, cardiau iechyd gwladol, pasbortau, trwydded yrru, llyfrau budd-daliadau, llyfr cyfeiriadau, llyfrau sieciau, cardiau credyd, llyfr rhent neu bapurau morgais ac ati.
  • Allweddi’r tŷ, y car a’r gweithle.
  • Llyfr cyfeiriadau.
  • Ewch ag unrhyw eiddo personol sydd â gwerth sentimental gyda chi – lluniau neu emwaith, er enghraifft.
  • Hoff deganau’r plant.
  • Ewch â dillad a phethau ymolchi ar eich cyfer chi a’r plant – digon i bara rhai dyddiau o leiaf.
  • Ewch ag unrhyw feddyginiaeth sydd ei hangen arnoch chi neu’ch plant gyda chi.
  • Unrhyw ddogfennau sy’n ymwneud â’r gamdriniaeth megis adroddiadau’r heddlu neu waharddebau.

Os byddwch chi’n gadael ac yn sylweddoli’n ddiweddarach eich bod chi wedi anghofio rhywbeth, gallwch chi ofyn i’r heddlu eich hebrwng adref i gasglu’r eitem.

Diogelwch ar ôl i chi adael y berthynas

Os ydych chi wedi gadael eich cartref, ond eich bod yn aros yn yr un ardal neu yn yr un swydd neu fod eich plant yn aros yn yr un ysgol, efallai y gallwch chi wneud eich hun yn fwy diogel yn y ffyrdd canlynol:

  • Ceisiwch newid eich patrymau arferol ac osgoi llefydd roeddech chi’n mynd pan oeddech chi gyda’ch gilydd.
  • Os oes gennych chi unrhyw apwyntiadau rheolaidd y mae’ch partner yn gwybod amdanyn nhw (er enghraifft, dosbarth ymarfer corff), ceisiwch ddewis ffordd ddiogel o gyrraedd a gadael neu ystyriwch newid i leoliad newydd.
  • Dywedwch wrth ysgol, meithrinfa neu warchodwr plant eich plant beth sydd wedi digwydd, a dywedwch wrthyn nhw pwy fydd yn casglu’r plant. Gofalwch na fyddan nhw’n caniatáu i unrhyw arall eu casglu nhw nac yn rhoi eich cyfeiriad neu’ch rhif ffôn newydd i unrhyw un. (Efallai yr hoffech chi sefydlu cyfrinair neu roi copïau o unrhyw orchmynion llys iddyn nhw, os oes gennych chi rai.)
  • Dywedwch wrth eich cyflogwr neu gydweithwyr yn eich gweithle. Byddan nhw’n fwy na pharod i’ch helpu chi mewn argyfwng ac efallai y gallan nhw roi mesurau diogelach ychwanegol ar waith.
  • Os oes gennych chi waharddeb, gofalwch fod copi gan eich gorsaf heddlu leol a bod yr heddlu’n gwybod bod angen iddyn nhw ymateb yn gyflym mewn argyfwng. 
  • Os ydych chi wedi symud i ffwrdd o’ch ardal ac nad ydych chi am i’ch camdriniwr wybod lle ydych chi, cymerwch ofal arbennig gydag unrhyw beth a all roi syniad iddo lle rydych chi.

Cofiwch:

  • Os yw’ch camdriniwr wedi bod yn defnyddio’ch ffôn symudol, gallent fod wedi gosod dyfais olrhain arno. Os ydych chi’n ansicr, newidiwch eich ffôn. 
  • Yn aml, mae ffotograffau digidol yn cynnwys data lleoliad, felly cymerwch ofal (er enghraifft) wrth anfon lluniau o’r plant at y camdriniwr. 
  • Byddwch yn ofalus wrth bostio pethau ar gyfryngau cymdeithasol fel nad ydych chi’n datgelu eich lleoliad.
  • Os byddwch chi angen ffonio’ch camdriniwr (neu unrhyw un sy’n gysylltiedig ag ef), gofalwch nad oes modd olrhain eich rhif ffôn trwy ddeialu 141 cyn ffonio.
  • Newidiwch y cyfrineiriau ar gyfer eich e-bost, bancio ar-lein, cyfryngau cymdeithasol ac unrhyw wefan y mae’ch camdriniwr yn gwybod amdani. 
  • Siaradwch â’ch plant am gadw’ch cyfeiriad a’ch lleoliad yn gyfrinachol.
  • Ceisiwch osgoi defnyddio cardiau credyd neu ddebyd neu gyfrifon banc a rennir. Dylech chi hefyd newid y PIN ar gyfer eich cerdyn debyd os ydych chi’n amau bod y camdriniwr yn ei wybod.
  • Siaradwch â’r heddlu neu’ch cyfreithiwr os ydych chi’n mynd trwy achos llys i wneud yn siŵr nad yw’ch cyfeiriad yn ymddangos ar unrhyw bapurau llys.
  • Gall dioddefwyr stelcio a cham-drin domestig ymuno â’r gofrestr etholiadol yn ddienw i sicrhau nad ydyn nhw’n cael eu rhoi mewn perygl ac nad ydyn nhw’n colli’r hawl i bleidleisio.  
  • Os bydd eich cynbartner yn parhau i’ch bygwth, eich cam-drin neu aflonyddu arnoch chi, gofalwch eich bod chi’n cadw cofnod manwl o bob digwyddiad, gan gynnwys y dyddiad a’r amser, beth a ddywedwyd neu a wnaed ac, os yn bosibl, lluniau o ddifrod i’ch eiddo neu anafiadau i chi neu i eraill.
  • Os bydd eich partner neu’ch cyn-bartner yn eich anafu chi, ewch i weld eich meddyg teulu neu ewch i’r ysbyty i gael triniaeth a gofynnwch iddyn nhw gofnodi’ch ymweliad. Os oes gennych chi waharddeb gyda phŵer i arestio, neu os oes gorchymyn atal ar waith, dylech chi ofyn i’r heddlu ei orfodi. Os na fydd eich camdriniwr yn ufuddhau i unrhyw orchmynion llys, dylech chi ddweud wrth eich cyfreithiwr hefyd.  

Mewn argyfwng, ffoniwch yr heddlu ar 999.

Bywyd ar ôl dioddef cam-drin domestig

Ar ôl gadael sefyllfa o gam-drin domestig, byddwch chi’n disgwyl i’ch bywyd wella’n sylweddol ond, i lawer o ddioddefwyr, dim ond pan fyddan nhw’n ddiogel ac wedi dianc o’r gamdriniaeth y gallan nhw ganiatáu i’w hunain ddechrau teimlo unrhyw beth am eu profiadau.

Efallai y byddwch chi’n teimlo rhyw fath o wacter. Efallai y byddwch chi’n teimlo gofid, hiraeth a cholled fawr. Bydd eich ymddiriedaeth wedi’i bradychu, eich hunan-barch a’ch hyder wedi’u chwalu. Mewn llawer o ffyrdd, byddwch chi’n teimlo eich bod chi’n galaru fel petai’n brofedigaeth ac, fel gydag unrhyw golled, bydd hi’n cymryd amser i chi ddod at eich hun.

Peidiwch â bod yn rhy galed arnoch chi’ch hun. Peidiwch â rhuthro pethau, a pheidiwch â disgwyl y byddwch chi’n gallu cyflawni popeth rydych chi am ei gyflawni yn syth.

Efallai y bydd byw gyda rhywun sy’n eich bychanu chi, eich beirniadu chi, eich rheoli chi, eich cam-drin chi neu ymddwyn yn dreisgar tuag atoch chi wedi tanseilio’ch hunanhyder yn llwyr.

  • Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd (neu’n amhosibl) gwneud penderfyniadau, hyd yn oed ynghylch y pethau lleiaf – gan nad oedd eich camdriniwr yn caniatáu i chi wneud unrhyw benderfyniadau drosoch chi’ch hun.
  • Efallai y byddwch chi’n ei chael hi’n anodd rheoli arian: efallai mai’ch cynbartner oedd yn rheoli’r materion ariannol i gyd; mae’n debygol eich bod chi’n gorfod ymdopi ar incwm isel iawn.
  • Efallai eich bod chi wedi gadael llawer o’ch eiddo personol ar ôl.

Rydych chi eisoes wedi cymryd cam enfawr trwy adael eich camdriniwr. Mae’n bwysig i chi ganmol eich hun am hynny. Yna, meddyliwch am yr holl bethau eraill rydych chi wedi’u cyflawni yn eich bywyd, a gwnewch restr yn eich meddwl y gallwch chi ddychwelyd ati pan fyddwch chi’n teimlo’n isel.

Mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi amser i chi’ch hun benderfynu beth rydych chi am ei wneud: does dim amserlen benodol ar gyfer dod at eich hun – mae pawb yn wahanol. Os nad ydych chi am newid unrhyw beth arall ar hyn o bryd, mae hynny’n iawn. Byddwch yn amyneddgar ac yn garedig wrthych chi’ch hun. Dim ond chi all benderfynu beth rydych chi am ei gyflawni mewn bywyd a beth sydd orau i chi.

Pan fyddwch chi’n teimlo eich bod chi’n barod i wneud newidiadau pellach, efallai yr hoffech chi ystyried ymuno â sefydliadau lleol, dychwelyd i fyd addysg neu chwilio am swydd newydd neu wahanol. Gall y newidiadau hyn gael effaith gadarnhaol ar eich bywyd, sy’n rhan bwysig o’r broses o roi trefn ar eich bywyd.

Mae’n bwysig bod gennych chi obeithion ac uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, ond ceisiwch osod nodau ymarferol a symud wrth eich pwysau, yn hytrach na gwneud gormod.

Dyma rai o’r pethau y gallech chi eu gwneud:

  • Neilltuo amser i ymlacio bob dydd. 
  • Gwobrwyo’ch eich hun – rhywbeth nad oes angen llawer o arian ar ei gyfer – mynd am dro yn y parc, coginio pryd o fwyd arbennig i chi’ch hun neu brynu tusw o flodau. 
  • Gwneud rhywbeth rydych chi’n ei fwynhau. 
  • Gwneud ymarfer corff rheolaidd (er enghraifft, nofio, dawnsio, cerdded neu ddringo). Rhoi cynnig ar ddosbarth ioga, myfyrio neu hunanamddiffyn.
  • Rhoi cynnig ar ymarferion ymlacio (er enghraifft, ymarferion anadlu, tai chi, hunan-hypnosis neu dylino’r corff). 
  • Bod yn greadigol: arlunio, peintio, ysgrifennu. 
  • Gofalu’ch bod chi’n bwyta’n dda ac yn cael digon o gwsg.

Mae rhai pobl yn cael budd o siarad am eu profiadau gyda phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg, er enghraifft, fel rhan o grŵp cymorth. Efallai y bydd eraill am archwilio eu teimladau mewn sesiwn un-i-un gyda chwnsler neu therapydd. 

Mae bod mewn perthynas dreisgar yn anodd, yn boenus ac yn achosi straen, ond mae bywyd ar ôl camdriniaeth yn gyfle i chi gymryd rheolaeth dros eich bywyd ac yn rhoi amser i chi oresgyn rhai o’r profiadau poenus. Gallwch chi ddatblygu eich ffyrdd eich hun o fyw gyda’ch profiadau hefyd a symud ymlaen i fywyd mwy cadarnhaol.

Rhaglen Meithrin Cydberthnasau Gwell

Mae nifer o raglenni'n cael eu cynnig ledled Cymru (ar sail wirfoddol drwy wasanaeth cam-drin domestig neu drwy'r Llysoedd/ y Gwasanaeth Prawf). Nid oes unrhyw rai o'r rhain yn warant y gallwch achub eich perthynas - dylech barhau i roi blaenoriaeth i'ch diogelwch eich hun a'ch plant.

Os yw ymrwymiad eich partner i newid yn ddiffuant, fe fydd yn derbyn bod angen ichi deimlo’n ddiogel a bod yn ddiogel mewn gwirionedd.

Cynlluniwyd rhaglenni atal cam-drin domestig i helpu camdrinwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu hymddygiad ac i ddysgu sgiliau newydd a fydd yn eu galluogi nhw i ymddwyn mewn ffordd nad yw'n cynnwys cam-drin pobl eraill. Mae hyn yn cymryd amser ac nid oes ateb sydyn ar gael.

Mae rhaglenni'n amrywio rhwng 12 - 28 sesiwn ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu rhedeg ar fformat cyfarfodydd grŵp. Gan amlaf, byddwch chi a'ch partner wedi'ch cysylltu â 'gweithiwr diogelwch' tra bo'r grŵp yn dal i fynd. Pwrpas hyn yw sicrhau eich bod yn ddiogel gydol yr amser fel eich bod yn gallu rhannu pryderon gyda nhw, a'u bod nhw yn gallu rhannu pryderon gyda chithau.

Chi yn unig all benderfynu a yw'r newidiadau mae eich partner yn eu gwneud yn ddigonol ichi allu dyfalbarhau â'r berthynas.
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael gan eich gwasanaeth cam-drin domestig lleol.

 

Gwybodaeth am gam-drin domestig

Beth yw cam-drin domestig?

Y diffiniad o gam-drin a thrais domestig ar draws llywodraethau'r DU yw:

"Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau sy’n amlygu ymddygiad sy'n fygythiol neu'n rheoli, neu’n rheoli drwy orfodaeth, neu unrhyw drais neu gamdriniaeth rhwng pobl 16 oed neu’n hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid rhywiol, neu'n aelodau o deulu, ni waeth beth fo'u rhyw na'u rhywioldeb".

Mae sawl math gwahanol o gam-drin domestig. Ymhlith elfennau eraill, mae'r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • rheoli drwy orfodaeth, cam-drin yn emosiynol / seicolegol
  • camdriniaeth gorfforol
  • camdriniaeth rywiol
  • camdriniaeth ariannol
  • aflonyddu a stelcio.

Mae cam-drin domestig yn gallu cynnwys gwahanol fathau o ymddygiad hefyd sy’n ymddangos yn gymharol ddiniwed o’u hystyried fel digwyddiadau unigol. Os ydyn nhw’n rhan o batrwm o ymddygiad sy’n codi ofn, braw neu ofid, mae’n gamdriniaeth.

Mathau o gam-drin domestig?

Rheoli drwy orfodaeth, cam-drin yn emosiynol / seicolegol

Rheolaeth drwy orfodaeth yw patrwm o ymddygiad lle mae'r person rydych chi'n gysylltiedig ag ef yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud i chi deimlo eich bod yn cael eich rheoli, eich bod yn ddibynnol arno, eich bod wedi eich ynysu, yn cael eich bychanu neu eich bod yn byw mewn ofn.

Mae'r ymddygiadau isod yn enghreifftiau cyffredin o reolaeth drwy orfodaeth:

  • cael eich ynysu rhag gweld eich ffrindiau a'ch teulu
  • rheoli faint o arian sydd gennych a sut rydych chi'n ei wario
  • yn eich diraddio dro ar ôl tro, galw enwau maleisus arnoch chi neu ddweud eich bod yn dda i ddim
  • monitro'r hyn rydych chi'n ei wneud a'ch symudiadau
  • bygwth eich niweidio neu eich lladd chi neu eich plentyn
  • bygwth cyhoeddi gwybodaeth amdanoch chi neu eich reportio i'r heddlu neu'r awdurdodau
  • difrodi eich eiddo neu eich eiddo personol yn y tŷ
  • eich gorfodi i fod yn rhan o weithgarwch troseddol neu gam-drin plentyn
  • eich ynysu rhag eich ffynonellau cymorth

Camdriniaeth gorfforol

Gall hyn amrywio o ddefnyddio gorfodaeth / trais neu ddefnyddio pethau i'ch brifo. Gall camdriniaeth gorfforol gynnwys:

  • Slapio a / neu ddyrnu
  • Cicio
  • Llosgi
  • Ysgwyd
  • Tagu
  • Taflu pethau
  • Defnyddio cyllyll neu arfau eraill

Camdriniaeth rywiol

Ystyr camdriniaeth rywiol yw unrhyw fath o gyswllt rhywiol yn erbyn eich ewyllys a gallai gynnwys y canlynol:

  • cael eich cyffwrdd mewn ffyrdd amhriodol/nad ydych ei eisiau
  • gofynion rhywiol nad ydych eu heisiau
  • cael eich brifo'n fwriadol yn ystod rhyw
  • rhoi pwysau arnoch i gael rhyw heb ddiogelwch/ rhyw anniogel
  • rhoi pwysau arnoch i gael rhyw
  • eich gorfodi i gael rhyw
  • eich gorfodi i gymryd rhan mewn puteindra neu bornograffi
  • eich atal rhag defnyddio dulliau atal cenhedlu
  • gwneud tâp fideo neu dynnu lluniau o weithredoedd rhywiol a'u rhannu heb eich caniatad
  • trais.

Cam-drin ariannol

Gall cam-drin domestig gynnwys cam-drin ariannol hefyd megis:

  • cadw rhywun yn brin o arian
  • cymryd eu harian
  • atal rhywun rhag cael neu gadw swydd
  • dinistrio eiddo
  • gwrthod mynediad at gyfrif banc 
  • mynd i ddyled yn enw’r dioddefwr.

Aflonyddu a stelcio

Gallai hyn gynnwys gwneud y canlynol:

  • anfon negeseuon testun, e-bost, llythyrau, cardiau neu ‘anrhegion’ dro ar ôl tro
  • eich dilyn chi neu ymddangos yn eich cartref neu’ch gweithle
  • aflonyddu ar ffrindiau, teulu neu gymdogion
  • fandaleiddio eiddo.

Pwy sy'n gallu cael ei effeithio gan gam-drin domestig?

Mae’n gallu digwydd i unrhyw un, beth bynnag fo'u hoedran, rhyw, cenedligrwydd, ethnigrwydd neu allu ac mae'n digwydd heb ystyried incwm, dosbarth neu safle cymdeithasol, statws o ran ymfudo, cyfeiriadedd rhywiol neu faterion iechyd (gan gynnwys beichiogrwydd).   

Mae cam-drin domestig yn aml yn digwydd rhwng pobl:

  • sydd /sydd wedi bod mewn perthynas rywiol â'i gilydd 
  • sydd / sydd wedi byw gyda'i gilydd
  • sydd wedi cael plant gyda'i gilydd
  • sy'n berthnasau teuluol agos.

Mae cam-drin domestig yn aml yn parhau ar ôl i berthynas ddod i ben.

Plant yn cam-drin eu rhieni

Yn ogystal â byw yn ofni ymosodiad, efallai y bydd rhieni sy’n cael eu cam-drin gan eu plant yn teimlo cywilydd ac yn beio eu hunain, ac efallai y byddan nhw’n amharod i ddatgelu’r broblem.

Cyfeirir at drais a chamdriniaeth gan blant hŷn tuag at eu rhieni (APVA) mewn amryw o wahanol ffyrdd, gan gynnwys ‘cam-drin rhieni’, ‘camdriniaeth gan blant tuag at eu rhieni’ (CPV) neu ‘syndrom curo rhieni’.

Mae APVA yn debygol o gynnwys patrwm o ymddygiad, sy’n gallu cynnwys trais corfforol a mathau eraill o ymddygiad camdriniol tuag at riant (gan gynnwys difrod i eiddo, cam-drin emosiynol a cham-drin economaidd/ariannol). Mae trais a chamdriniaeth yn gallu digwydd gyda’i gilydd neu ar wahân.

Mae gan rai teuluoedd sy’n dioddef APVA hanes o drais a cham-drin domestig. Mewn achosion eraill, gall y trais fod yn gysylltiedig â phroblemau ymddygiad eraill, cam-drin sylweddau, problemau iechyd meddwl neu anawsterau dysgu.

Mae’n bwysig bod yr unigolyn sy’n dioddef y gamdriniaeth a’r unigolyn ifanc sy’n cam-drin yn derbyn y cymorth iawn.

I gael cymorth, cyngor a chefnogaeth gan gwnselwyr hyfforddedig Llinell Gymorth yr NSPCC gydag unrhyw bryderon ynglŷn â phlentyn, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, anfonwch e-bost i help@nspcc.org.uk neu ffoniwch 0808 800 5000

 

Cymorth a chefnogaeth

Gweithwyr proffesiynol sy'n gallu helpu

Weithiau, mae pobl yn ei chael hi’n anodd iawn siarad am gamdriniaeth gan eu bod nhw’n teimlo cywilydd neu eu bod ofn gwneud hynny. Weithiau, maen nhw’n teimlo y byddai gwneud newidiadau yn rhy gymhleth neu’n amhosibl hyd yn oed. Mae cael gafael ar gymorth yn gallu bod yn anodd iawn, yn enwedig os oes gennych chi blant.

Yn ogystal â chysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn, mae nifer o bobl ac asiantaethau eraill a all eich helpu neu helpu rhywun rydych yn pryderu yn eu cylch:

  • gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol yn lleol
  • meddyg teulu
  • ymwelydd iechyd, bydwraig, nyrs gymunedol
  • yr heddlu
  • canolfan Cyngor ar Bopeth
  • cyflogwr
  • canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC)
  • cwnselydd
  • teulu/ffrindiau.

Tai diogel a lloches

Gall gwasanaethau lleol ar gyfer cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod  yng Nghymrugynnig amrywiaeth o gefnogaeth i ddiwallu eich anghenion (ac anghenion eich plant os oes rhai gennych). Gallant gynnig cymorth gydag amrywiaeth o broblemau, gan gynnwys:

  • tai
  • materion cyfreithiol
  • mewnfudo
  • cefnogaeth drwy'r system gyfiawnder
  • arian a dyledion
  • iechyd a lles
  • cael mynediad at addysg, cyflogaeth, dysgu a sgiliau
  • mynediad at gymorth drwy gwnsela.

Mae rhai gwasanaethau yn cynnig Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig (IDVAs) ar gyfer pobl sy’n wynebu risg uwch o gael niwed.

Gall y gwasanaethau sydd ar gael gynnwys:

Llety mewn argyfwng (lloches)

Mae llochesi yn dai diogel lle y gall pobl sy'n dioddef cam-drin domestig aros, yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, un ai mewn argyfwng neu i''w helpu i symud ymlaen a dod dros y gamdriniaeth.

Gall y math o loches y mae eich gwasanaeth lleol yn gallu'i gynnig amrywio. Mae gan y rhan fwyaf o lochesi yng Nghymru le ar gyfer 3-6 teulu ar y tro (merched gyda phlant a'r rhai heb blant). Mae rhai llochesi yn unedau teuluol hunangynhwysol, ond bydd y rhan fwyaf ohonynt yn rhoi eich ystafell eich hun ichi i'w rhannu â'ch plant,  tra'n rhannu'r ystafelloedd eraill (ee. yr ystafell fyw, y gegin, ystafell chwarae, etc,) â phreswylwyr eraill y lloches.

Mae mynediad i loches ar gael drwy linell gymorth Byw Heb Ofn neu drwy eich grŵp lleol ac mae ar gael 24 awr y dydd /365 diwrnod y flwyddyn, Mae rhwydwaith o lochesi ledled y DU, felly, gan ddibynnu a ydynt ar gael, cewch ddewis a ydych am aros ymhell o 'ch cartref, neu aros yn yr un ardal. Bydd y darparwyr lloches yn cynnal eu hasesiadau unigol eu hunain.

Mae llochesi ar gyfer Menywod a Dynion yng Nghymru.

Cymorth yn y gymuned (allgymorth neu gymorth fel bo'r angen)

Cefnogaeth ac eiriolaeth arbenigol ar gyfer dioddefwyr/goroeswyr sy'n byw yn y gymuned i helpu pobl i symud ymlaen a chadw'n ddiogel, ac i lwyddo i fyw'n annibynnol yn yr hirdymor, heb ddioddef cael eu cam-drin.

Rhaglenni addysgu ac atal ar gyfer grwpiau

Mae llawer o wasanaethau'n rhedeg amrywiaeth o raglenni ar gyfer grwpiau â'r nod o helpu menywod sydd wedi dioddef cam-drin domestig er mwyn lleihau eu hunigrwydd, cynyddu eu hyder a'u helpu i ddod dros y trais a'r gamdriniaeth y maen nhw wedi'u dioddef.

Gwasanaethau plant a phobl ifanc

Mae llawer o wasanaethau hefyd yn darparu cefnogaeth i blant a phobl ifanc y mae cam-drin domestig wedi cael effaith arnynt. Mae amrywiaeth o raglenni ar gael, sy'n addas i wahanol oedrannau, i gefnogi plant a phobl ifanc â phrofiad o gam-drin domestig, a rhai ar gyfer mamau a phlant er mwyn helpu i ailadeiladu eu perthynas.

Cymorth i bobl sydd wedi cyflawni cam-drin domestig

Mae rhai gwasanaethau yng Nghymru yn cynnal rhaglenni achrededig i herio pobl sydd wedi cyflawni cam-drin, i reoli risgiau ac i newid eu hymddygiad. 

Cymorth cyfreithiol

Mae cam-drin domestig yn drosedd a gall yr heddlu eich helpu i gyflwyno achos i Wasanaeth Erlyn y Goron. Nid oes trosedd benodol 'cam-drin domestig'. Fodd bynnag gellid dwyn cyhuddiadau fel: ymosodiad, aflonyddwch, difrod troseddol, stelcio neu ymddygiad bygythiol.

Mae Unedau Cam-drin Domestig neu Unedau Diogelwch Cymunedol yn y mwyafrif o orsafoedd yr heddlu, gyda staff a hyfforddwyd yn benodol i ymdrin â cham-drin a thrais domestig.

Dylech ffonio 999 mewn argyfwng neu 101 os nad yw'n achos brys. Fel arall gallwch fynd i orsaf heddlu eich hun i roi gwybod am ddigwyddiad.

Dylid ymdrin â cham-drin domestig yr un mor ddifrifol ag ymosodiad neu fygythiad gan rywun dieithr. Gall pob swyddog heddlu ddefnyddio'i bwerau i ymyrryd, arestio, rhybuddio neu ddwyn cyhuddiad yn erbyn rhywun sy'n cam-drin person arall. 

Mae'n bosibl y bydd y sawl sydd dan amheuaeth yn cael ei gadw yn y ddalfa neu yn cael ei ryddhau ar fechnïaeth cyn cael ei gyhuddo, gan ddibynnu ar natur y digwyddiad dan sylw.

Mae Llysoedd Arbenigol ar gyfer Cam-drin Domestig ar gael ledled Cymru. Mae Barnwyr Rhanbarth, Clercod Llysoedd ac Erlynwyr y Goron i gyd wedi'u hyfforddi'n arbennig i ymdrin ag achosion llys mewn perthynas â cham-drin domestig, ac mae Cynghorwyr Annibynnol ar Drais Domestig wedi'u hyfforddi i ddarparu cefnogaeth i ddioddefwyr. 

Hysbysiadau a gorchmynion gwarchod rhag trais domestig 

Erbyn hyn mae gan yr heddlu bwerau i gyflwyno Hysbysiad Gwarchod rhag Trais Domestig (DVPN) i bartner sy'n gamdriniwr ac y mae perygl iddo barhau i ymddwyn yn dreisgar. Bydd yr hysbysiad yn un ysgrifenedig a bydd yn cael ei gyflwyno i'r partner treisgar gan swyddog o'r heddlu.

Mae'r gorchymyn yn para 48 awr ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r partner treisgar adael yr adeilad a pheidio â chysylltu â'r dioddefwr.Gellir ymestyn hwn ymhellach (hyd at 28 diwrnod) gan ynad mewn llys, sy'n gallu rhoi Gorchymyn Gwarchod rhag Trais Domestig (DVPO).

Opsiynau sifil

Gall pobl sy’n dod drwy drais domestig wneud cais i'r llysoedd sifil (llysoedd achosion teuluol neu'r llysoedd sirol) am waharddeb neu orchymyn llys i'w diogelu nhw. Dyma'r mathau mwyaf cyffredin o orchmynion llys:

  • Gorchmynion peidio ag ymyrryd - nod y gorchymyn hwn yw atal y camdriniwr rhag defnyddio neu fygwth defnyddio trais yn eich erbyn chi neu’ch plentyn, neu eich bygwth, eich poeni neu aflonyddu arnoch chi. Gall hefyd ei atal rhag dod o fewn pellter penodol i’ch cartref. Mae pob gorchymyn yn unigryw a bydd yn ystyried eich sefyllfa bersonol chi. Wrth wneud y gorchymyn, bydd yr ynad yn ystyried eich iechyd, eich diogelwch a’ch lles chi ac yn ystyried unrhyw blant yr effeithir arnynt. Bydd yr ynad hefyd yn asesu sut y bydd gorchymyn yn helpu'r sefyllfa yn ei farn ef. Mae torri'r gorchymyn peidio ag ymyrryd yn drosedd a gallwch ffonio'r heddlu ynghylch hyn.
  • Gorchymyn meddiannaeth - mae gorchmynion meddiannaeth yn datgan pwy sy'n cael byw mewn eiddo. Fel yn achos gorchmynion peidio ag ymyrryd, maen nhw wedi'u teilwra i'ch sefyllfa unigryw chi. Gallai gorchymyn ddweud bod rhaid i'r camdriniwr adael yr eiddo lle rydych chi'n byw. Gall hefyd atal y troseddwr rhag dod o fewn pellter penodol, megis 200 llath, i’ch cartref neu ysgol plentyn.
  • Gorchymyn camau gwaharddedig - mae llys yn rhoi gorchymyn camau gwaharddedig pan fo'ch partner wedi bygwth mynd â'ch plant oddi arnoch. Mae'n atal eich partner rhag mynd â'ch plentyn o'ch gofal a'ch rheolaeth. Nid yw o reidrwydd yn atal pob cyswllt â'r plant, ond mae'n penderfynu sut y gellir cynnal y cysylltiad yn ddiogel. 

Nid yw hwn yn adolygiad hollgynhwysfawr ac mae’n bwysig eich bod yn cael cyngor cyfreithiol proffesiynol cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Gall gwasanaethau cam-drin domestig arbenigol eich helpu chi ac efallai yr hoffech chi siarad â’ch Eiriolwr Trais Rhywiol Annibynnol (ISVA) neu’ch Eiriolwr Trais Domestig Annibynnol (IDVA) cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.

Cymorth o ran tai

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, efallai y byddwch am ystyried newid eich trefniadau byw.

Aros yn eich cartref eich hun

Os ydych chi am aros yn eich cartref eich hun, gallech gael gwaharddeb i gadw’r sawl sy’n eich cam-drin i ffwrdd a gorchymyn meddiannaeth i’w gwahardd o’r eiddo. Os credir eich bod mewn perygl o ymosodiad yn eich cartref eich hun, efallai y byddwch yn gymwys i waith ‘gwella diogelwch’ i sicrhau eich bod yn fwy diogel yn eich cartref.

Os ydych chi mewn tŷ rhent cymdeithasol, dylai’ch landlord cymdeithasol allu gweithio gyda chi a’ch cynghori sut y gellir tynnu enw’r partner ymosodol oddi ar y cytundeb tenantiaeth a’i symud allan o’r eiddo.

Gadael eich eiddo a dod o hyd i lety amgen

Os ydych chi’n dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, efallai y byddwch am ystyried gadael y cartref rydych chi’n ei rannu gyda’r partner ymosodol. Mae nifer o opsiynau ar gael i chi os ydych chi’n teimlo y bydd gadael y cartref yn helpu i’ch cadw chi a’ch plant  yn ddiogel.

Efallai y byddwch am siarad gydag un o’r gwasanaethau arbenigol yng Nghymru a fydd yn gallu darparu gwybodaeth bellach i chi am lochesau neu ddarparu cyngor pellach i chi ar eich opsiynau tai a’ch helpu i fod yn ddiogel tra’n gwneud y penderfyniadau hyn.

Llochesau/Llety â Chymorth

Os ydych chi’n credu bod yn rhaid i chi adael eich cartref ar frys oherwydd bod eich partner neu berthynas yn eich bygwth, efallai y gallwch symud i loches/llety â chymorth. Mae’r rhain yn fannau diogel, cyfrinachol i aros ynddynt gyda staff profiadol sy’n gallu’ch helpu. Mewn argyfwng, gallwch ofyn i’r heddlu neu Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol eich cynorthwyo i ddod o hyd i gymorth neu lety amgen fel lloches/llety â chymorth.

Cais am Ddigartrefedd

Os ydych chi’n credu bod yn rhaid i chi adael eich cartref oherwydd y risg o drais neu gam-driniaeth a/neu eich bod mewn perygl dybryd, efallai y bydd gan Adran Dai eich Awdurdod Lleol ddyletswydd i ddarparu cymorth i chi a’ch aelwyd.

Mae Rhan 2 Deddf Tai (Cymru) 2014 yn rhoi dyletswyddau ar Awdurdodau Lleol i asesu anghenion aelwydydd a allai fod yn ddigartref neu sy’n cael eu bygwth â digartrefedd o fewn y 56 diwrnod nesaf.

Dylid darparu llety brys i bobl sy’n ddigartref oherwydd cam-drin domestig yn ystod y cyfnod asesu. Ar ôl yr asesiad, os yw’r Awdurdod Lleol yn fodlon bod ganddynt ddyletswydd i ddarparu cymorth i’r aelwyd, mae’n rhaid i’r Awdurdod Lleol gymryd camau rhesymol i ddatrys eich problemau tai.

Cymdeithasau Tai a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig

Os ydych chi am wneud cais am dŷ cymdeithasol fel ymgeisydd newydd, gallwch gofrestru’n uniongyrchol â chymdeithas dai neu awdurdod lleol yn eich ardal. Os nad oes tai ar gael, efallai y bydd yn rhaid i chi ddisgwyl cryn amser i eiddo addas fod ar gael. Fodd bynnag, gellir rhoi blaenoriaeth i ailgartrefu dioddefwyr cam-drin domestig, yn dibynnu ar amgylchiadau unigol.

Gellir canfod gwybodaeth am y cymdeithasau tai sy’n gweithredu yn eich ardal gan eich awdurdod lleol. Mae manylion cyswllt yr holl awdurdodau lleol ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Trosglwyddo/cyfnewid

Os ydych chi eisoes yn rhentu eiddo sy’n dŷ cymdeithasol ac mai chi yw’r unig enw ar eich tenantiaeth, gallech wneud cais i drosglwyddo neu i gydgyfnewid. Cyfnewid eich cartref â thenant arall yw hynny. Bydd eich landlord yn gallu rhoi gwybodaeth bellach i chi am y cynllun. Gall y Cynllun Cyfnewid Cartrefi ei gwneud yn haws i denantiaid sy’n byw mewn cartref Cyngor neu gymdeithas tai ddod o hyd i eiddo newydd mewn rhan arall o’r wlad. Mae’r system hon ar waith ledled y DU, sy’n golygu y dylai tenantiaid sydd am symud allu gweld yr holl dai sydd ar gael ledled y DU, nid y rhai ar y wefan y mae eu landlord cymdeithasol presennol wedi cofrestru arni yn unig.

Tai Rhent Preifat

Os ydych chi’n byw mewn tŷ rhent preifat, gallwch roi rhybudd a symud allan o’ch eiddo ar ddiwedd y denantiaeth. Bydd eich cytundeb tenantiaeth yn dweud wrthych chi faint o rybudd y mae’n rhaid i chi ei roi i’r landlord. Gallwch chwilio am eich tŷ rhent preifat eich hun i symud iddo hefyd. Fodd bynnag, bydd llawer o landlordiaid yn gofyn am flaendal cyn i chi allu symud i mewn.

Rhent

Os ydych chi’n derbyn Budd-dâl Tai ac wedi gadael eich cyfeiriad oherwydd trais a cham-drin domestig, gallwch wneud cais am dâl gorgyffwrdd i dalu am eich cyfeiriad gwreiddiol a’ch cyfeiriad dros dro am gyfnod byr wrth i chi roi trefn ar bethau, cyhyd â’ch bod yn bwriadu dychwelyd i’ch cyfeiriad cartref pan fo hynny’n ddiogel.

 

Cymorth i blant

Cadw plant yn ddiogel

Mae byw gyda thrais domestig neu rywiol yn niweidiol i blant bob amser.

Does dim rhaid i unrhyw riant neu ofalwr sy’n dioddef y pethau hyn, na’u plant, wynebu trais domestig neu rywiol ar eu pennau eu hunain. Gall unrhyw un sy’n poeni am blentyn ffonio Llinell Gymorth 24 awr yr NSPCC  am ddim ar 0808 800 5000.

Beth yw Canlyniadau Cam-drin Domestig?

Mae cam-drin domestig yn ddinistriol bob amser ac mae angen cymorth ar y rhai sy’n ei ddioddef. Mae dioddefwyr yn teimlo eu bod nhw ar eu pennau eu hunain, maen nhw’n teimlo’n ofnus, yn ddig, yn ofidus, yn gymysglyd, yn ddiymadferth, yn flinedig ac yn isel, yn euog ac yn teimlo cywilydd. Efallai na fydd y rhai sydd wedi byw gyda phartner camdriniol yn gallu darparu’r gofal a’r sylw y maen nhw’n dymuno ei roi i’w plant, ac efallai y byddan nhw’n colli golwg ar anghenion corfforol ac emosiynol eu plant.

Effeithiau ar Blant

Mae cam-drin domestig yn gallu cael effaith niweidiol iawn ar blant a phobl ifanc sy’n aml yn gwybod llawer mwy am yr hyn sy’n digwydd nag yr ydych chi’n sylweddoli. Mae’n gyffredin iawn i blant weld neu glywed trais corfforol a byddan nhw hefyd yn gweld sut mae’ch partner yn eich trin chi yn fwy cyffredinol. Mae plant yn cael eu dal ynghanol sefyllfaoedd trais domestig, ac mae’n gallu bod yn brofiad dryslyd a gofidus iawn iddyn nhw.  

Weithiau, mae plant yn beio eu hunain am y trais ac efallai y byddan nhw’n cuddio eu teimladau a’u problemau. Mae’n gallu cael effaith ddifrifol ar ymddygiad a lles plentyn, hyd yn oed os nad ydyn nhw’n cael niwed eu hunain.

Yn aml, mae plant sydd wedi bod yn dyst i drais domestig:

  • yn ofnus 
  • yn mynd i’w cragen 
  • yn ddig 
  • yn colli eu hunanhyder
  • yn dioddef problemau iechyd neu broblemau cysgu 
  • yn cael trafferthion yn yr ysgol 
  • yn teimlo gormod o gywilydd i ddod â ffrindiau adref 
  • yn dreisgar neu’n dangos problemau eraill gyda’u hymddygiad 
  • wedi cael eu brifo neu eu cam-drin yn gorfforol.

Beth alla i ei wneud i gadw fy mhlentyn yn ddiogel?

Siaradwch â’ch plant, os allwch chi, a gwrandewch sut maen nhw’n teimlo. Efallai y bydd deall sut maen nhw’n teimlo yn eich helpu chi i benderfynu beth yw’r peth gorau i chi ei wneud.

Bydd gofyn am gymorth a chefnogaeth yn diogelu eich plant. Mae plant yn gallu gwella o effeithiau trais domestig, cyn belled â’u bod nhw’n gwybod eu bod nhw’n ddiogel ac nad oes ofn arnyn nhw mwyach.

Cymorth a ddarperir gan yr NSPCC

Mae’r NSPCC yn cynnig gwasanaeth ‘Domestic Abuse, Recovering Together’ (DART) hefyd, lle gall plant a’u mamau siarad â’i gilydd am gam-drin domestig a dysgu i gyfathrebu ac ailadeiladu eu perthynas. I weld a yw DART yn cael ei gynnig yn eich ardal chi, ewch i wefan yr NSPCC.

Os ydych chi’n poeni am blentyn, ffoniwch Linell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000.

Y gefnogaeth sydd ar gael i blant

Mae ChildLine yn darparu cymorth a chefnogaeth i blant a phobl ifanc. Mae’n wasanaeth preifat a chyfrinachol i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed.

Gwefan ChildLine mae a’r Llinell Gymorth ar gael bob amser i gynnig gwybodaeth a chymorth gyda materion megis cam-drin domestig a cham-drin rhywiol.

Ystyr trais domestig yw pan fo oedolyn yn bygwth, yn bwlio neu’n gwneud niwed i oedolyn arall yn y teulu. Weithiau, fe’i gelwir yn gam-drin domestig. Mae’n gallu digwydd rhwng rhieni, parau priod a chariadon, mewn perthynas hoyw neu lesbiaidd neu ar ôl i bâr wahanu. Mae trais domestig yn gallu digwydd i unrhyw un.

Sut mae trais domestig yn effeithio arnoch chi?

Hyd yn oed os nad chi sy’n wynebu’r trais domestig, dyw hynny ddim yn golygu na allwch chi gael eich brifo hefyd. Os ydych chi yn yr un ystafell neu’r ystafell drws nesaf pan fo’r trais yn digwydd, gall beri gofid mawr i chi. Ni ddylech chi orfod gweld na chlywed trais domestig rhwng oedolion sy’n gofalu amdanoch chi.

Efallai eich bod chi wedi cael eich brifo neu eich bwlio fel rhan o’r trais domestig a’ch bod yn poeni am eich diogelwch eich hun. Gall siarad am sut rydych chi’n teimlo eich helpu chi i ymdopi. Mae ChildLine yma bob amser i bobl ifanc pryd bynnag y byddan nhw eisiau siarad.

Beth alla i ei wneud i atal y gamdriniaeth?

Y peth pwysicaf y gallwch chi ei wneud yw cadw’ch hun yn ddiogel. Nid chi sydd ar fai am y trais domestig, ac nid chi sy’n gyfrifol am atal y trais neu’r gamdriniaeth. Peidiwch â cheisio ymyrryd i atal y trais neu’r gamdriniaeth – gallai hyn eich rhoi chi mewn perygl.

Y peth mwyaf defnyddiol y gallwch chi ei wneud yw siarad ag oedolyn am yr hyn sy’n digwydd. Os ydych chi’n poeni am eich diogelwch eich hun, mae’n bwysig i chi siarad â rhywun cyn gynted â phosibl. Mae ChildLine yn lle diogel i chi siarad am sut rydych chi’n teimlo a dechrau meddwl am gynlluniau diogelwch.

Os ydych chi’n teimlo bod hynny’n ddiogel, dywedwch wrth eich rhieni sut rydych chi’n teimlo am yr hyn sy’n digwydd gartref. Efallai nad ydyn nhw’n sylweddoli eich bod chi’n gwybod beth sy’n digwydd neu pa mor frawychus yw’r sefyllfa i chi.

Gwefan ChildLine mae yn cynnwys yr holl wybodaeth hon a mwy. Gallwch chi fynd i’r wefan i gael cyngor ar beth yw cam-drin domestig, gwybodaeth am y gwahanol fathau o gamdriniaeth, lle i gael help a chamau i’w cymryd i’ch cadw chi’n ddiogel. Mae yna lawer o ddolenni i ffynonellau cymorth eraill hefyd.

Gall plant a phobl ifanc ffonio ChildLine unrhyw bryd ar 0800 1111 i siarad â chwnsler. Mae galwadau’n gyfrinachol ac am ddim. Gallwch chi hefyd anfon e-bost neu gael sgwrs un-i-un ar-lein.

Plant mewn cydberthnasau anniogel

Mae cam-drin domestig yn gallu digwydd mewn unrhyw berthynas, ac mae’n effeithio ar bobl ifanc hefyd.

Os ydych chi’n poeni am blentyn, neu os ydych chi’n gweithio gyda phlant ac angen cyngor neu wybodaeth, ffoniwch Linell Gymorth yr NSPCC ar 0808 800 5000.

Yn anffodus, mae camdriniaeth yn digwydd mewn perthynas rhwng pobl ifanc o dan 16 oed ac mae bechgyn a merched yn gallu dioddef cam-drin corfforol, cam-drin emosiynol a cham-drin rhywiol gan eu partneriaid. Mae ymchwil yn dangos bod un o bob pump o bobl ifanc yn eu harddegau wedi cael eu cam-drin yn gorfforol gan eu cariad .

  • Mewn arolwg o bobl ifanc 13-17 oed yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, dywedodd 21% o bobl ifanc eu bod nhw wedi cael eu cam-drin yn gorfforol gan eu partneriaid.
  • Yn ôl arolwg gan yr NSPCC o bobl ifanc a ddefnyddiodd wefan Childline rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2013, roedd 40% o'r rhai a oedd wedi bod mewn perthynas wedi dioddef rhyw fath o gamdriniaeth yn y berthynas. Dywedodd 25% o’r rhai a oedd wedi dioddef camdriniaeth ei fod wedi digwydd ormod o weithiau i gofio.
  • Mae ymchwil sy’n canolbwyntio ar farn a phrofiadau plant o drafod rhyw, hunaniaeth rywiol a pherthynas bersonol wedi dangos nad yw aflonyddu rhywiol geiriol yn anghyffredin rhwng plant sy’n gariadon, ond ychydig iawn o’r plant hynny sy’n gallu siarad am y peth gyda rhiant neu athro.

Arwyddion o Berygl

Mae rhai o’r arwyddion mwyaf cyffredin o gamdriniaeth yn erbyn plant a phobl ifanc yn cynnwys:

  • arwyddion o anafiadau corfforol
  • colli ysgol
  • dirywiad mewn graddau/marciau ar gyfer gwaith ysgol
  • newidiadau mewn ymddygiad, tymer a phersonoliaeth, mynd i’w cragen
  • iselder
  • bwlio neu gael eu bwlio
  • pellhau oddi wrth deulu a ffrindiau
  • ymddygiad, iaith neu agweddau rhywiol amhriodol
  • hunan-niwed, anhwylderau bwyta, problemau cysgu
  • defnyddio cyffuriau ac alcohol (yn enwedig os nad ydyn nhw wedi eu defnyddio o’r blaen).

Nid yw hon yn rhestr hollgynhwysol ac efallai y bydd plant a phobl ifanc yn ymateb yn wahanol i gamdriniaeth mewn perthynas, neu gallai’r dangosyddion hyn fod yn awgrym o faterion eraill sy’n eu hwynebu.

Adnoddau’r NSPCC ar gyfer Rhieni/Gweithwyr Proffesiynol

Mae ATL a’r NSPCC wedi datblygu canllawiau i helpu gweithwyr proffesiynol ac oedolion i helpu unigolyn ifanc sy’n dioddef camdriniaeth mewn perthynas i lunio cynllun diogelwch sy’n diwallu anghenion yr unigolyn ifanc. Trwy wefan ATL. Mae’r canllawiau hyn yn Saesneg yn unig.

Mae templed defnyddiol ar gyfer cynllun diogelwch ar gael ar wefan Childline. Mae’r ddogfen hon yn Saesneg yn unig.

Cyngor i Rieni a Gweithwyr Proffesiynol

Mae cam-drin domestig mewn perthynas yn gallu cael effeithiau niweidiol sylweddol ar iechyd a lles plant a phobl ifanc. Dyna pam mae’n bwysig gwybod beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu os bydd plentyn yn datgelu ei fod mewn perthynas beryglus. Trwy baratoi yn iawn a gwybod pa help sydd ar gael, gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn i ddiogelwch a lles plentyn.

Os ydych chi’n poeni am blentyn, neu os bydd plentyn yn datgelu ei fod yn dioddef camdriniaeth dreisgar yn ei berthynas, mae Llinell Gymorth yr NSPCC ar agor 24 awr y dydd ar 0808 800 5000 a bydd cwnselwyr hyfforddedig yn gallu ateb eich galwad a chynnig cyngor a chymorth.

Ffynonellau Cymorth Eraill

ChildLine – 0800 1111

Gwasanaeth preifat a chyfrinachol sydd ar gael 24 awr y dydd i blant a phobl ifanc hyd at 19 oed yw ChildLine. Mae gwefan ChildLine yn cynnwys cyfeiriadau hefyd at ffynonellau eraill o gymorth a gwybodaeth am gamdriniaeth mewn perthynas i bobl ifanc.