Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth a chyngor i’r rheini sy’n dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol yn ystod argyfwng y Coronafeirws neu i’r rheini sy’n nabod rhywun sy’n dioddef.

Siaradwch â ni nawr

Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim:

Ffoniwch: 0808 80 10 800

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y llinell gymorth

Gwasanaeth sgwrsio byw

Testun: 07860077333

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y gwasanaeth neges destun

E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru 

Ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Gwybodaeth am y gwasanaeth e-bost


Gall llinell gymorth Byw Heb Ofn eich helpu drwy:

  • wrando arnoch a chynnig gofod diogel ac anfeirniadol
  • trafod eich opsiynau a’ch hawliau
  • darparu cymorth emosiynol
  • eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol lleol
  • rhoi cyngor a gwybodaeth diogelwch
  • asesu’r risg i chi.

Mae pob sgwrs â staff Byw Heb Ofn yn gyfrinachol ac yn cael eu cynnal â staff sy'n brofiadol iawn ac wedi'u hyfforddi'n llawn.

Cadw’n ddiogel gartref

Nid yw pob cartref yn hafan ddiogel. I rai, gall ddatblygu yn fan lle mae ynysu yn cynyddu’r risg o drais a chael eich rheoli.

Gan eich bod gartref yn amlach yn ystod pandemig y coronafeirws, efallai bod angen i chi ailystyried sut i aros yn ddiogel.

Mae’n bwysig eich bod yn meddwl am sut y mae coronafeirws yn newid eich cynllun diogelwch.

  • Bydd y person sy’n eich cam-drin yn debygol o fod yn y tŷ gyda chi
  • Efallai y bydd eich plant adref o’r ysgol
  • Efallai y bydd straen ychwanegol ar yr ochr ariannol
  • Efallai na allwch siarad â’r rhwydweithiau cymorth, eich teulu a’ch ffrindiau
  • Ystyriwch sut y bydd eich iechyd a’ch lles yn newid

Sut i gadw'n saff

  • Cadwch mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, pan fo modd i chi wneud hynny – mae nifer o apiau defnyddiol y gallwch eu defnyddio i gadw mewn cysylltiad gweledol: Skype, FaceTime, galwadau fideo, ond cofiwch wneud hyn mewn ffordd ddiogel. Efallai bod pobl eraill yn gwrando.
  • Meddyliwch am sut i gael cymorth mewn ffordd ddiogel, ac os oes modd i chi wneud hynny, cysylltwch â’ch gwasanaeth trais domestig lleol, neu cysylltwch â’r llinell gymorth i sefydlu cynllun i gadw’n ddiogel gartref neu gynllun i adael y cartref yn ddiogel 
  • Sefydlwch gyfrinair neu arwydd i’w ddefnyddio mewn argyfwng i adael i’r rhai sy’n agos atoch wybod eich bod angen help ac i ffonio’r heddlu
  • Os yn bosibl, cadwch fag o eitemau hanfodol yn ddiogel wrth law, ac ystyriwch opsiynau ar gyfer ei gadw’n saff fel ei adael gyda chymydog yr ydych yn ymddiried ynddo
  • Defnyddiwch siopau lleol pan na fo slotiau siopa ar-lein ar gael a phan fydd mwy o siopau’n agor, a siaradwch â rhywun
  • Galwadau distaw i’r heddlu – ffoniwch 999 – yna gwasgwch 55 os nad oes modd i chi siarad (rhagor o wybodaeth yma)

Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre

Mae’r ymgyrch Ddylai neb deimlo’n ofnus gartre wedi cael ei lansio i roi gwybod i’r rhai sydd mewn perygl fod cymorth ar gael o hyd, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos trwy Fyw Heb Ofn.

Ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio  #BywHebOfn

Lawrlwythwch ragor o wybodaeth, gan gynnwys fideos, posteri a delweddau i hyrwyddo’r ymgyrch.

Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – hyfforddiant ar-lein

Os ydych yn dal i fod mewn sefyllfa i helpu’r rhai a allai fod mewn perygl uwch o gamdriniaeth, rydym eisiau i chi allu adnabod yr arwyddion. Rydym eisiau rhannu sut gall cymorth gael ei roi’n ddiogel, p’un a yw hynny gan un o’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo’r rhai mwyaf bregus o’n plith, contractwr brys, y gweithlu gwasanaethau post, siopau lleol neu weithwyr archfarchnad.

Dyna pam rydym wedi sicrhau bod ein modiwl dysgu ar-lein ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ar gael i bawb (dros dro yn ystod y pandemig coronafeirws).

Mae ein hyfforddiant ar-lein 45 munud ar gael trwy fewngofnodi fel gwestai ar.