Mae'r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar arwyddion ymddygiadau afiach sy'n rheoli'r berthynas er mwyn annog dioddefwyr, pobl sy'n gwylio o bell a thramgwyddwyr i gydnabod bod ymddygiad o'r fath yn gyfystyr â cham-drin.
Cynnwys
Gwybodaeth am yr ymgyrch
Rheolaeth drwy orfodaeth yw patrwm o ymddygiad lle mae'r person yr ydych chi'n gysylltiedig ag ef yn ymddwyn dro ar ôl tro mewn ffordd sy'n gwneud ichi deimlo eich bod yn cael eich rheoli, eich bod yn ddibynnol arno, eich bod wedi eich ynysu, yn cael eich bychanu neu eich bod yn byw mewn ofn.
Gall fod yn anodd adnabod ymddygiad sy'n rheoli o fewn y berthynas; yn achos y rhai sy'n dioddef yr ymddygiad hwnnw a'r teulu sy'n dystion iddo. Cafodd yr ymgyrch hon ei chreu i helpu pobl i adnabod y math o ymddygiadau sy'n gyffredin pan fydd rheolaeth drwy orfodaeth yn digwydd.
Roedd yr ymgyrch yn cynnwys fideo a oedd yn dangos yr ymddygiadau hynny'n glir.
Deunyddiau hyrwyddo
Cymorth pellach
I gael cyngor a chymorth, siaradwch â Byw Heb Ofn.