Neidio i'r prif gynnwy

Nod yr ymgyrch 'Gawn ni Stopio Beio?' oedd chwalu'r chwedl bod dioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol yn gyfrifol am y drosedd y maen nhw'n ei dioddef.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwybodaeth am yr ymgyrch

Gallai dioddefwyr trais neu ymosodiad rhywiol fod yn anfodlon cofnodi'r drosedd rhag ofn i bobl feddwl mai nhw sy'n gyfrifol am yr hyn sydd wedi digwydd iddyn nhw. Nod yr ymgyrch 'Gawn ni Stopio Beio?' oedd rhoi terfyn ar yr agwedd honno drwy ddangos i ddioddefwyr, troseddwyr a'r cyhoedd mai'r ymosodwr yn unig sydd ar fai, nid y dioddefwr.

Cafodd yr ymgyrch ei chynnal ym mis Rhagfyr 2010. Roedd yn cynnwys cyfres o hysbysebion ar y radio, posteri awyr agored a hysbysebion ar-lein, yn ogystal â gwefan benodol ar gyfer yr ymgyrch a oedd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor i ddioddefwyr.

Deunyddiau hyrwyddo

Cymorth pellach

I gael cyngor a chymorth, siaradwch â Byw Heb Ofn.