Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd yr ymgyrch 'Ennill neu golli, does dim esgus iti golli dy dymer' ei llunio i leihau achosion o gam-drin domestig ar adeg digwyddiadau mawr yn y byd chwaraeon.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gwybodaeth am yr ymgyrch

Roedd tystiolaeth yn dangos bod mwy o achosion o gam-drin domestig ar adeg digwyddiadau mawr yn y byd chwaraeon.

Cafodd yr ymgyrch ei chynnal yn 2012 ac yn 2013 i gyd-fynd â digwyddiadau mawr yn y byd chwaraeon. Roedd yn cynnwys hysbysebu ar y radio, a phosteri ar fysys a threnau a oedd yn hyrwyddo negeseuon yn erbyn trais a Llinell Gymorth Camdriniaeth yn y Cartref a Thrais Rhywiol Cymru.

O ganlyniad i ymgyrch 2012 cafwyd 10% mwy o alwadau i'r llinell gymorth na'r flwyddyn flaenorol.

Cymorth pellach

I gael cyngor a chymorth, siaradwch â Byw Heb Ofn