Mae'r ymgyrch hon yn canolbwyntio ar arwyddion ymddygiadau afiach sy'n rheoli'r berthynas er mwyn annog dioddefwyr, pobl sy'n gwylio o bell a thramgwyddwyr i gydnabod bod ymddygiad o'r fath yn gyfystyr â cham-drin.
Cynnwys
Gwybodaeth am yr ymgyrch
Nod ymgyrch ‘Dyw hyn ddim yn iawn’ yw helpu pobl ifanc i ddeall beth yw perthynas iach. Mae’n eu helpu i ddeall nad yw rheolaeth yn iawn, ei fod yn ffurf ar gam-drin.
Mae hefyd yn helpu pobl y tu allan i’r berthynas adnabod ymddygiad o’r fath a chymryd camau priodol o’i weld.
Deunyddiau ymgyrchu
Cymorth pellach
I gael cyngor a chymorth, siaradwch â Byw Heb Ofn.