Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth, Ken Skates, wedi lansio Bapur Gwyn yn amlinellu cynigion sy'n anelu at wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws Cymru gyfan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r ymgynghoriad yn siarad yn uniongyrchol â rhanddeiliaid allweddol o fewn y diwydiant - cwmnïau bysiau a thacsis a grwpiau teithwyr - a'r nod yw casglu sylwadau ynghylch newidiadau arfaethedig i'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu'r modd y caiff gwasanaethau bysiau eu cynllunio a'u darparu. Y nod yn ogystal yw diwygio'r drefn o drwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae gwasanaethau bysiau ar draws Cymru'n sicrhau mynediad pwysig at addysg, hyfforddiant, gwaith, gofal iechyd ac yn syml at gyfleoedd i deithio. Maent yn creu cyswllt allweddol rhwng ein cymunedau ac yn hollbwysig ar gyfer cefnogi economi lewyrchus. 

“Mae ein rhwydwaith bysiau yn hwyluso oddeutu 100 miliwn o deithiau bob blwyddyn o'i gymharu â thua 30 miliwn o deithiau blynyddol ar drenau. Er mwyn gallu creu system drafnidiaeth gwbl integredig mae angen sicrhau bod y gwasanaethau bysiau sydd ar gael yng Nghymru'n diwallu anghenion teithwyr a'u bod yn cyd-fynd yn llwyr â gwasanaethau trenau a thrafnidiaeth eraill. 

“Mae tacsis a cherbydau hurio preifat  yn darparu gwasanaeth cyhoeddus hanfodol sy’n cysylltu pobl â lleoedd pan nad yw gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus eraill ar gael neu pan nad ydynt yn ymarferol. Mae cyfraniad y sector yn sylweddol i’r economi liw nos a’r economi twristiaeth yn llawer o’n cymunedau ac mae’r diwydiant yn rhan allweddol o’n huchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

"Rydym wedi gwrando ar adborth gan deithwyr, awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, gyrwyr tacsis a grwpiau sydd â diddordeb yn y maes ynghylch y ddarpariaeth bresennol o drafnidiaeth gyhoeddus a gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae pawb yn cytuno bod angen newid. 

“Nod y cynigion yw sicrhau gwell cynllunio a gwell atebion, gan roi teithwyr, cymunedau lleol a phobl nad ydynt yn ystyried bod trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn i'w hanghenion trafnidiaeth wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau."

Nod y newidiadau deddfwriaethol arfaethedig yw sicrhau bod y dulliau a'r safonau angenrheidiol yn eu lle i'n helpu i wireddu ein huchelgais. 

Ychwanegodd Ken Skates:

“Credaf fod ein rhwydwaith trafnidiaeth yn flaenoriaeth allweddol - mae angen i ni greu system trafnidiaeth gyhoeddus integredig yng Nghymru sy'n ddiogel, yn ddibynadwy, yn brydlon, yn gynaliadwy ar lefel amgylcheddol ac sydd ar gael i bawb."

"Ar lefel ymarferol, hoffem sicrhau cysondeb o ran ein trafnidiaeth gyhoeddus a'n cerbydau hurio preifat er mwyn gwarchod teithwyr a sicrhau gwasanaethau effeithlon a glân.

"Ein nod yw cynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac annog teithwyr i ystyried peidio â defnyddio eu ceir preifat, gan leihau llygredd a thagfeydd. Hoffem weld mwy o bobl yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn cyrraedd gwahanol lefydd, a hynny'n brydlon ac mewn modd effeithlon."