Neidio i'r prif gynnwy

Mae Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd, wedi cyhoeddi sut y bydd y gronfa £15m Llywodraeth Cymru i wella gofal critigol yn cael ei neilltuo.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Y llynedd, cyhoeddodd Mr Gething fod cyllid yn mynd i fod ar gael ar gyfer gwella gofal critigol ac mae'r grŵp arbenigol a sefydlwyd i gynghori ar sut y dylid ei neilltuo wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau.

Bydd yr arian yn cael ei neilltuo fel a ganlyn:

  • £1.7m – Sefydlu gwasanaeth trosglwyddo cenedlaethol ar gyfer oedolion sy'n ddifrifol wael. Bydd hwn yn gwella diogelwch cleifion ac yn golygu bod defnydd gwell yn cael ei wneud o adnoddau gofal critigol ac ambiwlansys argyfwng cyfyngedig
     
  • £0.83m –  Datblygu Uned Cymorth Anadlu Hirdymor yn Ysbyty Prifysgol Llandochau
     
  • £4.5m ar gyfer Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro i ddarparu chwe gwely gofal critigol arall
     
  • £2.625m ar gyfer Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i ddatblygu unedau gofal ôl-anesthesia a gwasanaethau allgymorth ac un gwely gofal critigol arall yn Ysbyty Glan Clwyd
     
  • £0.020m ar gyfer Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddatblygu cynllun y gweithlu gofal critigol
     
  • £0.13m ar gyfer Bwrdd Iechyd Powys i wella'r ffordd y mae cleifion sydd â'u cyflwr yn gwaethygu yn cael eu rheoli
     
  • £1.642m ar gyfer Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan i feithrin capasiti a chynyddu'r gweithlu gofal critigol
     
  • £1.38m ar gyfer Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddatblygu gwasanaethau allgymorth gofal critigol ac unedau gofal ôl-anesthesia
     
  • £1.041m ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda i ddatblygu gwasanaeth allgymorth gofal critigol yn ardal y bwrdd iechyd
     
  • £1.112m ar gyfer Bwrdd Iechyd Bae Abertawe i greu uned gofal ôl-anesthesia a datblygu gwasanaethau allgymorth gofal critigol ymhellach yn Ysbyty Treforys

Dywedodd Mr Gething:

Fel sy'n cael ei amlinellu yn Cymru Iachach, mae gwasanaethau mewn ysbytai fel gofal critigol yn parhau'n rhan hanfodol a gweledol o'n system iechyd a gofal at y dyfodol. Mae angen i ni gyflawni'r newidiadau i ofal critigol yn gyflymach ac edrych ar sut rydyn ni'n darparu gwasanaethau ym mhob cwr o Gymru, i sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y man cywir ar gyfer y rheini sy'n ddifrifol wael. Bydd y cyllid hwn yn ein helpu ni i wneud hynny. 

Yn ogystal â darparu rhagor o welyau gofal critigol, bydd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud gwelliannau mewn gwasanaethau cysylltiedig fel unedau gofal ôl-anesthesia, cymorth anadlu hirdymor a thimau allgymorth gofal critigol. Bydd hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r materion y gweithlu rydyn ni'n eu hwynebu eisoes  – o safbwynt bodloni'r capasiti presennol yn ogystal â diwallu'r cynnydd.