Neidio i'r prif gynnwy

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwella’r cydweithio ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Trosolwg

Rhaid i bob bwrdd gynnal asesiad llesiant, cyhoeddi cynllun llesiant lleol a chyhoeddi adroddiadau blynyddol. Mae’r cynllun yn nodi sut y byddant yn bodloni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Aelodau

Aelodau Statudol pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yw:

  • Yr Awdurdod Lleol
  • Y Bwrdd Iechyd Lleol 
  • Yr Awdurdod Tân ac Achub 
  • Cyfoeth Naturiol Cymru

Yn ogystal â’r aelodau statudol, bydd gwahoddiad i'r canlynol gymryd rhan:

  • Gweinidogion Cymru
  • Prif Gwnstabliaid 
  • Y Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Gwasanaethau Prawf Penodol

O leiaf un corff sy’n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol perthnasol.

Dewch o hyd i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ