Statws B
Pwnc:
Addysg
Ffynhonnell:
TermCymru
Enw, Lluosog
Defnyddir yr acronym hwn yn gyffredin ym maes addysg. Talfyriad ydyw o’r geiriau Saesneg “free school meals”. Argymhellir defnyddio’r term llawn Cymraeg lle bynnag y bo modd, ond gellir defnyddio’r acronym Saesneg “FSM” mewn testunau Cymraeg mewn amgylchiadau eithriadol. Mewn rhai hen destunau, mae’n bosibl y gall y term hefyd gyfeirio at y dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim, yn hytrach na’r prydau eu hunain. Serch hynny, mae’r acronym “eFSM” bellach yn fwy cyffredin wrth gyfeirio at y dysgwyr hyn. Gweler y cofnod am “eFSM”.