Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: exclusion ground

Cymraeg: sail dros wahardd

Rhan ymadrodd

Enw, Benywaidd, Unigol

Lluosog

seiliau dros wahardd

Diffiniad

O dan Ddeddf Caffael 2023, un o nifer o resymau a bennir yn y ddeddf a all arwain at wahardd cyflenwyr rhag cymryd rhan mewn prosesau caffael. Caiff rhai rhesymau eu pennu'n 'discretionary exclusion grounds' ('seiliau disgresiynol dros wahardd') ac eraill, mwy difrifol, eu pennu'n 'mandatory exclusion grounds' ('seiliau mandadol dros wahardd').

Cyd-destun

In this section “exclusion ground” means a mandatory exclusion ground or a discretionary exclusion ground.

Nodiadau

Term o faes caffael. Ychwanegwyd i’r gronfa yn sgil Deddf Caffael 2023 (deddfwriaeth Llywodraeth y DU, sydd ar gael yn Saesneg yn unig) a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Daw’r frawddeg gyd-destunol Saesneg o Ddeddf Caffael 2023. Yn y ddeddfwriaeth ar gaffael, gwahaniaethir rhwng debarment / rhagwaharddiad ac exclusion / gwaharddiad.