Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: due

Cymraeg: dyladwy

Rhan ymadrodd

Ansoddair

Diffiniad

y dylai (ym marn y sawl sy’n siarad neu'n ysgrifennu) gael ei roi, ei wneud, etc; teilwng

Cyd-destun

Os yw'r Comisiynydd yn gwneud argymhelliad ysgrifenedig neu'n cyflwyno sylw ysgrifenedig, neu'n rhoi cyngor ysgrifenedig i Weinidogion Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyladwy i'r argymhelliad, y sylw neu i'r cyngor wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae'n ymwneud â hi.

Nodiadau

Gweler hefyd due (=y mae ar rywun i rywun arall): dyledus. Er y gwahaniaethir rhwng dwy ystyr y gair 'due' mewn testunau cyfreithiol, nid oes raid wrth hynny mewn testunau cyffredinol, lle mae'n gyffredin gweld ymadroddion fel "rhoi sylw dyledus" am "give due regard".