Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: deepfake

Cymraeg: ffugiad dwfn

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Lluosog

ffugiadau dwfn

Diffiniad

Delwedd neu fideo sydd wedi cael ei drin yn ddigidol drwy dechnegau dysgu dwfn. Y nod yw argyhoeddi bod y ddelwedd neu'r fideo a addaswyd yn un dilys a real, er nad ydyw mewn gwirionedd.

Nodiadau

Mae'r term Saesneg yn gyfuniad o'r gair 'fake' a'r term 'deep learning'. Gallai'r berfenw 'ffugio dwfn' fod yn addas mewn rhai cyd-destunau.