Statws C
Pwnc:
Addysg
Ffynhonnell:
TermCymru
Berf
Mae sawl astudiaeth wedi cymharu'r modd y mae plentyn a'i fam yn rhyngweithio drwy ddarllen llyfrau â'r hyn sy'n digwydd wrth chwarae â theganau. Mae’r astudiaethau’n dangos bod mamau’n siarad mwy ym mhob uned amser wrth ddarllen llyfrau, bod strwythur iaith mamau wrth ddarllen yn fwy cymhleth a’u bod yn yn defnyddio geirfa ehangach (Weizman a Snow, 2001). Wrth ddarllen llyfrau, mae mwy o gyfle i labelu gwrthrychau ac i labelu'n benodol (ee 'teigr yw hwn') o gymharu â chwarae â theganau (Hoff, 2003c).
Term o faes therapi iaith a lleferydd.