Statws A
Pwnc:
Iechyd
Ffynhonnell:
TermCymru
Enw, Gwrywaidd, Unigol
amhariadau ar y clyw a'r golwg
Colled y ddau synnwyr pell, hynny yw gweld a chlywed.
Weithiau, bydd amhariad ar glyw ac ar olwg y dysgwr.
Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.