Statws A
Pwnc:
Cynllunio
Ffynhonnell:
TermCymru
Enw, Gwrywaidd, Unigol
materion a gadwyd yn ôl
Mater y mae awdurdod cynllunio wedi penderfynu peidio â mynegi barn arno am y tro, wrth roi caniatâd cynllunio amlinellol, ond y bydd angen ei gymeradwyo cyn cael caniatâd cynllunio llawn.
Dyma'r geiriad a ddefnyddir yng nghyd-destun y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Sylwer ar y gwahaniaeth yn amser y ferf rhwng y term hwn a'r ffurf "mater a gedwir yn ôl", a ddefnyddir ym maes y cyfansoddiad a'r gyfundrefn ddatganoledig.