Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: mining

Cymraeg: mwyngloddio

Rhan ymadrodd

Berf

Nodiadau

Yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio, gall y gair 'mwyngloddio' gyfeirio at gloddio unrhyw fath o fwynau, yn yr ystyr gyfreithiol, o'r tir. Gweler y cofnod am mineral/mwyn yn TermCymru. Oherwydd hyn, yn y gyfundrefn gyfreithiol gall y gair 'mwyngloddio' gynnwys gweithio i gloddio glo a llechi, sy'n sylweddau nad ydynt yn cael eu disgrifio fel 'mwynau' fel arfer yn Gymraeg, nac yn cyd-fynd ag ystyr wyddonol y term mineral/mwyn. Serch hynny, mewn cyd-destunau nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â'r gyfundrefn gyfreithiol, cloddio ar gyfer mwynau yn yr ystyr gyffredinol (neu wyddonol) yw 'mwyngloddio'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'coal mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lo'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn golygu 'slate mining' yn unig, defnyddier 'cloddio am lechi'. Lle bydd 'mining' mewn cyd-destunau o'r fath yn cael ei ddefnyddio'n gyffredinol i gyfeirio at fwy nag un math o'r rhain gyda'i gilydd, argymhellir gyfeirio yn Gymraeg at y gwahanol fathau, ee 'mwyngloddio neu gloddio am lo'. Lle nad yw hyn yn bosibl ac nad oes angen gwahaniaethu wrth gysyniad 'excavating', gellid ystyried defnyddio 'cloddio'.