Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: mineral

Cymraeg: mwyn 

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Lluosog

mwynau

Diffiniad

Unrhyw sylwedd o fath sy'n arferol ei weithio i'w dynnu o grombil neu o wyneb y ddaear, ac eithrio mawn a dorrwyd at ddibenion heblaw ei werthu.

Nodiadau

Mae'r diffiniad yn cyfeirio yn benodol at ystyr y term hwn yn y gyfundrefn gyfreithiol ar gyfer cynllunio. Mae ystyr fwy caeth i mineral/mwyn mewn cyd-destunau gwyddonol a chyffredinol. Bryd hynny, bydd y termau yn y ddwy iaith fel arfer yn golygu sylwedd solet anorganig sy'n ffurfio'n naturiol, gyda chyfansoddiad cemegol penodol a strwythur a nodweddion ffisegol nodweddiadol. Y gwahaniaeth ymarferol rhwng y diffiniad cyfreithiol a'r diffiniad gwyddonol yw bod y diffiniad cyfreithiol yn gallu cynnwys glo, mawn a chreigiau megis llechi, tra bod y diffiniad gwyddonol yn eithrio sylwedddau o'r fath. Gweler hefyd y cofnodion yn TermCymru am mine/mwynglawdd a mining/mwynglodio.