Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: piracy

Cymraeg: lladrad hawlfraint

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Diffiniad

Defnyddio gwaith a warchodir dan gyfraith hawlfraint heb ganiatâd, at ddefnydd y byddai caniatâd - fel arfer - yn ofynnol ar ei gyfer.

Nodiadau

Gan amlaf, defnyddir 'piracy' mewn cyd-destunau llai technegol i olygu 'copyright infringement' ('tor-hawlfraint'). Mae'r ddau derm yn gyfystyr. Serch hynny, sylwer y gall fod mân wahaniaeth rhwng 'copyright infringement' a 'copyright theft', gyda 'copyright theft' - o dan y gyfraith hawlfraint - yn cynnwys camweddau 'copyright infringement', 'counterfeiting' a 'trademark infringement'. Os oes angen manwl gywirdeb, defnyddier 'tor-hawlfraint' i gyfleu 'piracy'. Ond mewn cyd-destunau cyffredinol bydd 'lladrad hawlfraint' yn ddigon manwl i gyfleu'r ystyr, ac yn nes at rym trosiadol y term Saesneg.