Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: contract subject-matter

Cymraeg: pwnc y contract

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Cyd-destun

Ystyr “pwnc y contract” yw’r wybodaeth a ganlyn, i’r graddau y mae’n hysbys i’r awdurdod contractio pan gyhoeddir yr wybodaeth—(a) a yw’r contract yn bennaf ar gyfer cyflenwi nwyddau, gwasanaeth neu weithiau, (b) disgrifiad o’r mathau o nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi, (c) crynodeb o’r modd y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau hynny yn cael eu cyflenwi, (d) amcangyfrif o’r dyddiad y bydd y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gweithiau yn cael eu cyflenwi neu amcangyfrif o’r cyfnod y byddant yn cael eu cyflenwi drosto, (e) amcangyfrif o swm nwyddau, gwasanaethau neu weithiau a fydd yn cael eu cyflenwi, (f) y codau GGG perthnasol, ac (g) y dosbarthiad daearyddol, pan fo’n bosibl disgrifio hyn.

Nodiadau

Term o faes caffael. Ychwanegwyd i’r gronfa yn sgil Deddf Caffael 2023 (deddfwriaeth Llywodraeth y DU, sydd ar gael yn Saesneg yn unig) a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Daw’r frawddeg gyd-destunol o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024.