Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: net zero

Cymraeg: sero net

Rhan ymadrodd

Ansoddair

Nodiadau

Yr arfer yn gyffredinol yw hepgor y cysylltnod yn yr ymadrodd Saesneg ansoddeiriol "net zero" y dyddiau hyn, er bod rhai awdurdon ceidwadol yn dal i'w gynnwys. Yn Gymraeg, nid oes confensiwn orgraffyddol sy'n galw am gynnwys cysylltnod mewn cyfuniad fel "sero net". Felly, argymhellir ei hepgor yn gyfan gwbl yn Gymraeg (hyd yn oed wrth drosi enghreifftiau Saesneg sy'n cynnwys y cysylltnod). Gall y ffurfiau Cymraeg a Saesneg ill dau, "net zero" a "sero net", weithredu yn ansoddeiriol ac yn enwol. Lle bo'r testun Saesneg yn defnyddio'r ymadrodd yn enwol (ee "We are on a journey to net zero"), gellir defnyddio'r ymadrodd yn enwol yn y Gymraeg hefyd. Ond efallai y bydd y cyfieithydd am ychwanegu elfen enwol arall os yw hynny'n helpu â rhediad y frawddeg, ee "Rydym ar siwrnai i sefyllfa sero net".