Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: dementia-friendly

Cymraeg: sy’n deall dementia

Rhan ymadrodd

Enw, Benywaidd, Unigol

Cyd-destun

Ym mis Ebrill, amlinellais sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud Cymru yn genedl sy’n ystyriol o ddementia. Un o’n nodau yw sicrhau bod gan staff y GIG sy’n dod i gysylltiad ag aelodau o’r cyhoedd y sgiliau cywir i ddarparu’r math cywir o ofal a chefnogaeth i bobl â dementia pan fyddant yn dod i’r ysbyty.

Nodiadau

“sy’n deall dementia” a ddefnyddir gan amlaf gan Lywodraeth Cymru, ee teitl yr ymgyrch Cymru: Gwlad sy’n Deall Dementia. Oherwydd hynny, argymhellir defnyddio “sy’n deall dementia” yn y lle cyntaf fel cyfieithiad Cymraeg, er mwyn sicrhau neges gyson a chlir gan y Llywodraeth. Serch hynny, mae’n bosibl y byddai cyfieithiadau eraill fel “sy’n ystyriol o ddementia” yn fwy addas mewn rhai cyd-destunau. Dylid arfer gofal wrth gyfieithu’r elfen ‘–friendly’ gyda geiriau eraill, er mwyn sicrhau cyfieithiadau ystyrlon. Gweler, er enghraifft, y cofnodion am ‘age-friendly’, ‘ecofriendly’, ‘Bee-friendly’ ac eraill.