Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: residential school

Cymraeg: ysgol breswyl

Rhan ymadrodd

Enw, Benywaidd, Unigol

Lluosog

ysgolion preswyl

Diffiniad

Ysgol lle bydd disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yn byw, yn cael gofal ac yn cael addysg ar y safle. Gall y trefniant hwn fod yn para drwy’r flwyddyn, nid dim ond yn ystod y tymhorau dysgu arferol.

Nodiadau

Sylwer bod y cysyniad hwn yn wahanol i’r hyn a ddynodir fel arfer gan ‘boarding school’/’ysgol breswyl’, er ei bod yn gyffredin defnyddio’r termau hyn yn gyfystyr yn y ddwy iaith (yn bennaf i ddisgrifio’r hyn a olygir fel arfer gan ‘boarding school’). Gweler y cofnod hwnnw am ddiffiniad. Yn y rhan fwyaf o gyd-destunau nid yw defnyddio ‘ysgol breswyl’ am ‘boarding school a ‘residential school’ fel ei gilydd yn peri problemau. Os oes angen gwahaniaethu yn Gymraeg, gellid defnyddio ‘ysgol breswyl i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol’ am ‘residential school’ yn yr ystyr a ddisgrifir gan y diffiniad uchod, neu ‘ysgol breswyl prif lif’ am ‘boarding school’.