Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: faecal-oral route

Cymraeg: y llwybr ysgarthol-geneuol

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Diffiniad

Llwybr trosglwyddo ar gyfer clefyd, lle bydd pathogenau mewn ysgarthion unigolyn heintiedig yn pasio i unigolyn arall drwy geg y person hwnnw.

Nodiadau

Gall fod yn addas defnyddio aralleiriad mewn testunau llai technegol, ond gan gofio y bydd unrhyw aralleiriad yn debygol o fod yn fwy cignoeth na’r term technegol.