Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: antisemitism

Cymraeg: gwrthsemitiaeth

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Diffiniad

Math o ganfyddiad o Iddewon, a all gael ei gyfleu fel casineb tuag at Iddewon, yw gwrthsemitiaeth. Amlygir gwrthsemitiaeth drwy iaith a gweithredoedd corfforol sydd wedi'u hanelu at Iddewon neu unigolion nad ydynt yn Iddewon a/neu eu heiddo; ac at sefydliadau cymunedol a chyfleusterau crefyddol Iddewig.

Cyd-destun

Welsh Government has adopted the International Holocaust Remembrance Alliance’s working definition of antisemitism.

Nodiadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn diffiniad dros dro Cynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost ar gyfer gwrthsemitiaeth. Ni roddir priflythyren i'r elfennau "semitism" na "semitiaeth" gan fod y Semitiaid yn grwp ehangach o bobl na'r Iddewon - yn dechnegol, maent yn cynnwys yr holl bobloedd sy'n siarad ieithoedd Semitaidd - ond term sy'n ymwneud yn benodol â'r Iddewon yw 'gwrthsemitiaeth'.