Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: BAME

Cymraeg: Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol

Rhan ymadrodd

Ansoddair

Nodiadau

Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Peidiwch â defnyddio’r term na’r acronym Saesneg ‘BAME’ os oes modd ei osgoi, gan ei fod yn tramgwyddo rhai pobl y mae’n ceisio’i ddisgrifio, drwy grwpio a chyffredinoli a phwysleisio rhai grwpiau gan eithrio eraill. Caiff ei gynnwys yma yn unig er mwyn rhoi arweiniad i'r rhai sydd yn gorfod ei drosi i’r Gymraeg. Defnyddiwch y term Cymraeg llawn yn unig os oes angen cyfateb i’r Saesneg ‘BAME’. O ddewis, disgrifiwch pobl yn ôl eu cymuned ethnig unigol, nid yn ôl lliw croen na chategorïau gorgyffredinol. Os oes rhaid cyffredinoli, defnyddiwch ymadrodd fel ‘cymunedau ethnig amrywiol’ (‘diverse ethnic communities’) neu ‘mwyafrif byd-eang’ (‘global majority’)."