Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: person of colour

Cymraeg: person o liw

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Lluosog

pobl o liw

Diffiniad

Pobl sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd ethnig ar wahân i rai sy’n cael eu hystyried yn ‘wyn’.

Nodiadau

Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Lle bo’n bosibl, gwell peidio defnyddio termau sy’n cyfeirio at liw croen pobl eraill. Defnyddiwch ‘pobl o liw’ yn unig os oes angen cyfieithu ‘people of colour’ o’r Saesneg. Defnyddiwch dermau sy’n cyfeirio at ethnigrwydd yn hytrach nag at liw croen os oes modd. PEIDIWCH â defnyddio ‘croenliw’, ‘croenddu’, ‘croenwyn’ fel termau gan eu bod yn gorbwysleisio lliw croen."