Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: disability employment gap

Cymraeg: bwlch cyflogaeth anabledd

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Diffiniad

Y gwahaniaeth yn y gyfradd gyflogaeth rhwng pobl anabl a phobl nad ydynt yn anabl.

Cyd-destun

Mae’r bwlch cyflogaeth ymysg pobl anabl wedi bod yn gymharol sefydlog yn y blynyddoedd diwethaf.

Nodiadau

Gellid defnyddio "bwlch cyflogaeth ar sail anabledd" os yw cyd-destun y frawddeg yn caniatáu hynny. Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.