Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: turning the curve methodology

Cymraeg: methodoleg troi'r gornel

Rhan ymadrodd

Enw, Benywaidd, Unigol

Diffiniad

Dull o droi siarad yn weithredu. Darperir mesuriadau llinell sylfaen, a gwahoddir cyfranwyr i drafod y stori sy'n gefn i'r mesuriadau hynny, pa bartneriaid fyddai eu hangen i symud ymlaen a'u gwybodaeth ynghylch yr hyn sy'n effeithiol er mwyn gwella. Yn ei dro, bydd y trafodaethau hyn yn esgor ar gamau gweithredu.

Cyd-destun

Efallai bod carreg filltir "un pwynt i'r llall" yn briodol ar gyfer rhai dangosyddion - hynny yw pennu ffigur nawr yr ydym am ei gyflawni erbyn blwyddyn benodol yn y dyfodol. Neu mae'n bosib y byddwn am ddefnyddio methodoleg "troi'r gornel" a chynnig ystod o ganlyniadau posib yr hoffem eu gweld ar gyfer dangosydd penodol.