Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: welfare

Cymraeg: lles

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Diffiniad

Cyflwr o fod yn fodlon, yn iach, yn ffyniannus etc.

Cyd-destun

Yn ei ystyr symlaf, gellir ystyried gweinyddu lles fel y tasgau a gyflawnir wrth gymhwyso’r ddeddfwriaeth i brosesu hawliadau am fudd-dal nawdd cymdeithasol. Er enghraifft, mae cyfrifo uchafswm Credyd Cynhwysol hawlydd yn ‘dasg weinyddol’ o ystyried bod y broses yn golygu nodi’r symiau priodol i’w cynnwys yn y cyfrifiad o’r darpariaethau a nodir yn Rhan 4 o Reoliadau Credyd Cynhwysol 2013. Fodd bynnag, nid yw cael pwerau gweinyddol ar gyfer lles yn rhoi unrhyw bŵer i wyro oddi wrth ddeddfwriaeth nawdd cymdeithasol wrth brosesu hawliad am fudd-dal.

Nodiadau

Defnyddir yn bennaf yng nghyd-destun unigolion, a'r cymorth cymdeithasol sydd ar gael iddynt gan y wladwriaeth, ee budd-daliadau, gwasanaethau tai, gwasanaethau iechyd. Defnyddir hefyd yng nghyd-destun cyflwr, amgylchiadau ac iechyd anifeiliaid. Gweler hefyd y cofnod am 'llesiant'.