Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: wrong in law

Cymraeg: anghywir mewn cyfraith

Rhan ymadrodd

Ansoddair

Diffiniad

Disgrifiad o sefyllfa wirioneddol neu ddamcaniaethol lle ceir rhywun yn euog o drosedd a hynny heb fod yn unol ag egwyddorion a chymhwysiad priodol y gyfraith.

Nodiadau

Cyfyd y term hwn mewn dau gyd-destun yn bennaf. Yn gyntaf, defnyddir ef i ddisgrifio'r egwyddor sylfaenol yn y gyfraith na fedrir cael diffynnydd yn euog oni bai ei fod wedi torri'r gyfraith, hyd yn oed os yw wedi camweddu'n foesol. Yn ail y mae'n un o'r tri sail i'r Llys Apêl wyrdroi dyfarniad gan lys is, lle penderfyna'r Llys Apêl bod y dyfarniad gwreiddiol wedi ei seilio ar gamddehongliad neu gamgymhwysiad o'r gyfraith.