Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: Variant of Concern

Cymraeg: Amrywiolyn sy’n Peri Pryder

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Lluosog

Amrywiolion sy’n Peri Pryder

Diffiniad

Organeb neu feirws newydd sy'n wahanol yn enynnol wrth organebau neu feirysau eraill o'r un rhywogaeth neu linach, yn sgil mwtaniad yn y dilyniant genynnol, ac sy’n cynnwys un neu ragor o nodweddion sy’n peri pryder (o ran iechyd y cyhoedd). Ailddynodir Amrywiolynnau sy’n Destun Ymchwiliad yn Amrywiolynnau sy’n Peri Pryder, os yw’r ymchwiliad yn datgelu nodweddion o’r fath.

Nodiadau

Defnyddir yr acronym VOC, gan gynnwys yn y gyfundrefn enwi amrywiolion o’r fath (ee VOC-202012/01). Ailenwir amrywiolyn drwy addasu’r acronym cychwynnol yn yr enw, os yw’n cael ei ailddynodi yn Amrywiolyn sy’n Peri Pryder (ee o VUI-202012/01 i VOC-202012/01)