Neidio i'r prif gynnwy

Saesneg: learning disability

Cymraeg: anabledd dysgu

Rhan ymadrodd

Enw, Gwrywaidd, Unigol

Diffiniad

Gallu llai i ddeall gwybodaeth newydd neu gymhleth, ac i ddeall a chymhwyso sgiliau newydd, sy’n dechrau cyn i’r person fod yn oedolyn ac sy’n cael effaith barhaol ar ei ddatblygiad.

Nodiadau

Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson.