Mewnforio ffeiliau TMX
Dyma arweiniad ar fewnforio'r ffeiliau TMX hyn i nifer o'r systemau cof cyfieithu mwyaf cyfarwydd.
Ffeiliau TMX (Translation Memory eXchange) yw’r ffeiliau cofau cyfieithu a gyhoeddir ar BydTermCymru.
Mae ffeiliau TMX yn ffeiliau ar fformat XML agored a ddatblygwyd ar gyfer trosglwyddo data cofau cyfieithu rhwng gwahanol systemau cof cyfieithu.
Fel arfer, nid oes modd eu hagor ar gyfrifiaduron heblaw drwy gyfrwng systemau cof cyfieithu.
Mewnforio'r ffeiliau i’ch system cof cyfieithu
Awgrymir eich bod yn dilyn y drefn hon i fewnforio'r ffeiliau TMX i’ch system chi.
-
O’r dudalen lle ceir manylion y ffeil unigol, cliciwch ar enw’r cof
-
Bydd ffenestr fach yn ymddangos ar waelod y sgrin yn gofyn a ydych am Agor neu Arbed y ffeil
-
Dewiswch ei harbed mewn ffolder cyfleus ar eich cyfrifiadur
-
Dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol ar gyfer eich system cof cyfieithu, oni bai bod cyfarwyddiadau eich darparwr yn nodi fel arall
Déjà Vu X (2/3)
-
Agorwch DÉJÀ VU X(2/3) a dewis File> New
-
Dewiswch Translation Memory ac ewch trwy’r camau
-
Dewiswch File> Import> File or Database> Next
-
Dewiswch TM ac ewch trwy’r camau.
Trados
-
Agorwch TRANSLATOR'S WORKBENCH a dewiswch File> New (Ar gyfer TRADOS 2007: agorwch SYNERGY a dewiswch Create Translation Memory)
-
Dewiswch File> Import> OK
-
Dewiswch TMX a dewiswch TMX fel Files of type
-
Dewiswch ffeil TMX a gwasgu OK.
Wordfast
-
Agorwch WORD, a chlicio ddwywaith ar yr eicon WORDFAST
-
Dewiswch Select TM dan y glust TM
-
Dewiswch All Files dan Files of type
-
Dewiswch ffeil TMX a gwasgu OK.