Neidio i'r prif gynnwy

Ystyr 'term' a 'safoni termau'

Beth yw term, a beth yw diben safoni termau?

Beth yw ‘term’?
Label ar un cysyniad penodol mewn maes arbenigol yw term. Gall term gynnwys un gair (term syml) neu sawl gair (term cymhleth); gall hefyd fod yn symbol (©, ®) neu yn fformiwla (H2O).

Gall termau gyd-daro â geiriau yn yr iaith gyffredinol. Serch hynny, yr hyn sy’n eu gwneud yn wahanol i eiriau yn yr iaith gyffredinol yw’r ystyr benodol a manwl sydd ganddynt yn eu cyd-destun neu eu maes arbenigol.

Wrth gyfieithu darn o destun, dylai natur y darn a’r gynulleidfa darged eich helpu i benderfynu ai term ynteu gair neu ymadrodd o’r iaith gyffredinol fyddai’n taro deuddeg yn y cyd-destun.

Beth yw ‘safoni termau’?
Proses i sicrhau bod termau yn cydymffurfio â safonau penodol yw safoni termau.

Mae Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru yn dilyn y canllawiau safoni a baratowyd yn 2007 gan Ganolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor ar ran y Gwasanaeth Cyfieithu a Bwrdd yr Iaith Gymraeg. Mae’r rhain yn seiliedig ar y safonau rhyngwladol yn y maes.

Dyma'r meini prawf sylfaenol:
- dylai term fod yn ieithyddol gywir, h.y. dylai term gydymffurfio â normau morffolegol, morffogystrawennol a ffonolegol yr iaith dan sylw
- dylai term adlewyrchu, hyd y gall, nodweddion y cysyniad a roddir yn y diffiniad
- dylai term fod yn gryno
- dylai term fedru esgor ar ffurfiau eraill
- dylai un term gyfateb i un cysyniad yn unig

Y graddau y mae term wedi ei safoni fydd yn pennu’r statws a roddir i’r term hwnnw yng nghronfa TermCymru. Cewch esboniad o drefn y statysau yn y ddewislen ar y dde.