Enwau lleoedd tramor
Rhestrau o enwau gwledydd a thiriogaethau.
Mae’r rhestrau hyn yn adlewyrchu’r Mynegai Enwau Daearyddol a geir ar wefan y Swyddfa Dramor, Y Gymanwlad a Datblygu, ac eithrio’r golofn olaf yn y Mynegai hwnnw (“Enwau dinasyddion”). Mae bwriad i ychwanegu cofnodion am enwau dinasyddion i’r rhestr Gymraeg yn y dyfodol.
Mae’r Swyddfa Dramor wedi cymeradwyo’r enwau Saesneg, mewn cydweithrediad â’r Pwyllgor Parhaol ar Enwau Daearyddol.
Mae’r enwau Cymraeg yn ffrwyth gwaith safoni ar y cyd rhwng Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a Phanel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg. Seiliwyd y gwaith o safoni’r enwau Cymraeg ar set o egwyddorion a luniwyd yn benodol ar gyfer y dasg. Mae'r egwyddorion oedd yn sail i'r broses safoni wedi eu cyhoeddi'n llawn yn yr Arddulliadur, o dan y teitl Dynodi enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth.
Sylwch y gall y ffurfiau newid gydag amser, yn unol â'r egwyddorion ac mewn ymateb i benderfyniadau i addasu’r Mynegai Enwau Daearyddol. Swyddfa’r Comisiynydd fydd yn cydlynu addasiadau ac ychwanegiadau i’r rhestr Gymraeg.
Mae’r enwau sydd yn y rhestrau hyn, a’u data ategol, hefyd i’w canfod yng nghronfa dermau TermCymru. Yno hefyd cewch fathau eraill o enwau tramor, fel enwau cenhedloedd diwladwriaeth (ee Catalwnia) ac enwau rhanbarthau neu diriogaethau sy’n perthyn i wledydd sofran eraill (ee Yr Ynysoedd Dedwydd; Guiana Ffrengig).
Gallwch ychwanegu’r ffeiliau CSV hyn at gronfeydd termau mewn systemau cof cyfieithu. Gallwch lawrlwytho fersiynau PDF ar y rhestrau o dudalennau'r fersiynau ar-lein.
Rhyddheir yr holl adnoddau hyn o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).
Diweddarwyd y rhestrau hyn ddiwethaf ar 01 Tachwedd 2023.
Edrychwch ar fersiwn ar-lein ar y rhestr o enwau gwledydd sofran.
Edrychwch ar fersiwn ar-lein ar y rhestr o enwau Dibyniaethau Coron y DU.
Edrychwch ar fersiwn ar-lein ar y rhestr o enwau Tiriogaethau Tramor y DU.