Neidio i'r prif gynnwy

Geirfâu

Rhestrau o dermau o feysydd penodol, gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru ac eraill

Cyhoeddir y geirfâu hyn er hwylustod i’r rheini fyddai’n elwa o gael casgliadau o dermau yn y meysydd hyn. Yn achos geirfâu a gyhoeddir ar fformat CSV, gallwch eu hychwanegu at gronfeydd termau mewn systemau cof cyfieithu.

Gallwch hefyd weld yr holl dermau sydd yn y geirfâu hyn, a’u data ategol, yng nghronfa dermau TermCymru.

Gan mai rhestrau a gynhyrchwyd ar ddyddiadau penodol yw’r rhain gall fod rhai anghysondebau rhwng y data yn y ffeiliau isod a’r data yn TermCymru, er y byddwn yn ymdrechu i gadw’r anghysondebau hynny i’r lleiafswm. Lle bo anghysondeb rhwng y data yn y geirfâu isod a’r data yn TermCymru, dylech ystyried mai’r wybodaeth yn TermCymru sydd fwyaf diweddar a dilys.

Rhyddheir yr holl adnoddau hyn o dan y Drwydded Llywodraeth Agored (OGL).

Termau hil ac ethnigrwydd

Rhestr o dermau dethol gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Terminoleg o ran Cydraddoldeb ym maes Hil ac Ethnigrwydd, a sefydlwyd gan Is-adran Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru, gyda nodiadau defnydd ar gyfer trafod maes Hil ac Ethnigrwydd yn Gymraeg. Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023.

Cyhoeddir y rhestr hon ar ffurf ffeil PDF.

Termau LHDTC+

Rhestr o dermau o faes LHDTC+, yn seiliedig ar dermau a safonwyd gan y Gwasanaeth Cyfieithu at ddiben cyfieithu Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd ym mis Chwefror 2023.

Dyma’r colofnau sydd yn y ffeil CSV hon: Term Saesneg; Term Cymraeg; Lluosog; Diffiniad; Statws; Nodiadau

Edrychwch ar fersiwn ar-lein o'r rhestr hon, lle gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn PDF arni.

Termau allweddol COVID-19

Rhestr o dermau a gododd yng ngwaith Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru mewn perthynas â COVID-19 rhwng mis Chwefror 2019 a mis Chwefror 2021. Sylwch y safonwyd y termau hyn i raddau gwahanol, a nodwyd statws pob term yn y rhestr er mwyn adlewyrchu hynny. Dilynwch y ddolen ar ymyl y dudalen hon am ddisgrifiad o’r drefn statws.

Dyma’r colofnau sydd yn y ffeil CSV hon: Term Saesneg; Term Cymraeg; Diffiniad; Statws; Nodiadau

Edrychwch ar fersiwn ar-lein o'r rhestr hon, lle gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn PDF arni.