Gyda disgwyl i borthladd Caergybi ailagor yn rhannol heddiw (16 Ionawr) mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi pwysleisio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid.
Gyda disgwyl i borthladd Caergybi ailagor yn rhannol heddiw (16 Ionawr) mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi pwysleisio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r holl bartneriaid.
Mae Stena wedi cyhoeddi bod atgyweiriadau wedi'u gwneud i'r porthladd a gafodd ei ddifrodi'n wael gan Storm Darragh ym mis Rhagfyr y llynedd sy'n golygu y gall llongau fferi nawr hwylio yn llawn gyda'r fferi cyntaf i hwylio am 01:30 ar 16 Ionawr o angorfa 5.
Bu Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Iwerddon ers cau'r porthladd dros dro. Mae hyn wedi cynnwys cyfarfod y Prif Weinidog gyda'r Taoiseach yr wythnos diwethaf lle buont yn trafod effaith barhaus cau'r porthladd ar symudiad pobl a chludo nwyddau.
Er mwyn helpu i sicrhau gwydnwch hirdymor y porthladd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet yr wythnos diwethaf y bydd tasglu yn cael ei sefydlu a fydd yn gweithio gyda Gweinidogion Trafnidiaeth Iwerddon, Llywodraeth y DU, Stena a sefydliadau allweddol eraill ym mhorthladdoedd Cymru ac Iwerddon a'r diwydiant fferi i sicrhau bod y porthladd yn diwallu anghenion y ddwy wlad yn y dyfodol.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
Hoffwn ddiolch i deithwyr a'r diwydiant cludo nwyddau am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth addasu i'r newidiadau i'r llwybrau a oedd yn angenrheidiol yn dilyn y difrod a achoswyd gan Storm Darragh sy'n effeithio ar angorfeydd fferi terfynfa 3 a therfynfa 5.
Hoffwn hefyd ddiolch i weithredwyr y porthladdoedd, y cwmnïau fferi a'r staff ymroddedig yn Abergwaun, Aberdaugleddau ac mewn mannau eraill am bopeth a wnaethant i sicrhau fod pobl a nwyddau yn gallu teithio, yn enwedig dros gyfnod prysur yr ŵyl.
Roedd y cydweithrediad agos rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Iwerddon wedi bod o gymorth mawr i gydlynu'r ymdrech hon, gyda'r Prif Weinidog yn cyfarfod â'r Taoiseach mor ddiweddar â dydd Gwener diwethaf. Roedd cydweithio a rhannu gwybodaeth mewn amser real yn llywio darpariaeth gwasanaethau amgen ac yn helpu i leihau effeithiau traffig cysylltiedig. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i Adrannau a Gweinidogion perthnasol Llywodraeth y DU, awdurdodau lleol a chyrff masnach am y rhan y maent wedi'i chwarae yn y dasg hon.
Hoffwn ddiolch i Stena am ei gwaeth i ailagor angorfa 5 heddiw, er gwaethaf heriau tywydd tymhorol.