Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ffermwyr wedi Brexit, ond mewn ffordd llawer fwy doeth, dyna oedd y neges gan Lesley Griffiths i gynhadledd flynyddol NFU Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan gadarnhau ei hymrwymiad unwaith eto i wneud popeth bosib i sicrhau bod y sector amaethyddol yn goroesi wedi Brexit, diolchodd yr Ysgrifennydd Cabinet i bawb oedd wedi cyfrannu at yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' gan helpu i ddechrau trafodaeth genedlaethol ar ddyfodol cymorth i ffermwyr. 
Ym mis Gorffennaf, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer Rhaglen Rheoli Tir newydd i gymryd lle’r Polisi Amaethyddol Cyffredin yng Nghymru ar ôl Brexit.
Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhad na fydd y newidiadau i sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffermwyr yn cael eu rhuthro a gwnaeth dri ymrwymiad:
  • ni fydd unrhyw benderfyniadau'n cael eu gwneud tan i bob ymateb i'r ymgynghoriad  gael eu hadolygu
  • ni chaiff taliadau i ffermwyr eu newid chwaith heb ymgynghoriad llawn flwyddyn nesaf
  • ni fyddwn yn tynnu allan o'r hen gynlluniau tan y bydd y cynlluniau newydd yn barod.
Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:  
"Mae ein cynlluniau ar gyfer cymorth i ffermio yn y dyfodol yn seiliedig ar helpu i sicrhau bod ffermydd yn gadarn a chynaliadwy, beth bynnag yw'r fargen ar Brexit.  
"Rydym wedi cael ymateb anhygoel i'n hymgynghoriad 'Brexit a'n Tir' - dwi'n ddiolchgar iawn am bob un o'r 12,000 a mwy o ymatebion a gawsom, ac yn falch ein bod wedi cael trafodaeth genedlaethol ar ein cynigion.
"Dwi wedi bod yn glir o'r diwrnod cyntaf.  Nid ydy aros fel yr ydyn ni yn opsiwn wedi Brexit gan nad yw'n helpu ffermwyr addasu i heriau sefyllfa fasnachu wahanol sy'n datblygu'n gyflym.  P'un ai a ydym o blaid hyn neu beidio, bydd y DU yn gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin y flwyddyn nesaf.  Mae hyn yn bendant.
"Nid yw Cynllun y Taliad Sylfaenol y ffordd fwyaf effeithiol i gefnogi ffermwyr wedi Brexit - nid yw'n ddigon hyblyg.  Nid oes cysylltiad rhwng y Cynllun Taliad Sylfaenol ac ymdrechion ffermwyr, perfformiad y busnes ffermio na'r canlyniadau a geir.  Nid yw Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cynnig cadernid na llewyrch hirdymor.
"Dwi wedi datgan erioed bod yn rhaid inni gynnig cymorth parhaus i ffermwyr, ond mae angen inni wneud hynny mewn ffordd well, llawer doethach.  Mae ffermwyr angen ac yn haeddu ein cefnogaeth.  Dyma'r unig ffordd y gallwn gadw ffermwyr ar y tir ac amddiffyn ein cymunedau gwledig gwerthfawr.
"Bydd ein cynigion am Gynllun Nwyddau Cyhoeddus yn gwneud hynny - mae'n ffynhonnell incwm newydd a defnyddiol i ffermwyr. Bydd yn talu llawer mwy na 'yr incwm a gollwyd a'r costau a ysgwyddwyd' ein cynlluniau amaethyddol amgylcheddol presennol.  I rai ffermwyr bydd yn rhan fawr o'u hincwm, ac, yn bwysig iawn, bydd yn cael ei gysylltu â'r canlyniadau y mae Cymru eu hangen o'u tir nawr ac yn y dyfodol'.
"Bydd ein cynllun Cadernid Economaidd arfaethedig yn targedu cyllid er mwyn gwella busnesau.  Caiff ei gynllunio i gynyddu cynhyrchiant, buddsoddi mewn effeithlonrwydd ac amrywiaeth a helpu ffermwyr i addasu i gyfleoedd newydd yn y farchnad."

Bu i Ysgrifennydd y Cabinet atgoffa ffermwyr hefyd o'r cymorth gan gynllun benthyciadau y Cynllun Taliad Sylfaenol sydd ar gael eleni, gan annog y rhai hynny sy'n dymuno gwneud cais i gyflwyno eu ceisiadau cyn 30 Tachwedd fan bellaf.
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:  
"Byddwn yn dechrau taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar 3 Rhagfyr a byddwn yn sicrhau ein bod yn talu cynifer o fusnesau ffermio â phosibl ar ddiwrnod 1 y cyfnod talu.  Yn dilyn haf hynod boeth a sych, cyflwynais gynllun benthyciadau Cynllun y Taliad Sylfaenol i gefnogi busnesau fferm ac i ysgafnhau y pwysau tymor byr ar gyfran fechan o hawlwyr sy'n methu â derbyn eu Cynllun Taliad Sylfaenol yn gynnar yn ystod y cyfnod talu.

"Hoffwn atgoffa pawb bod hwn yn gynllun sydd angen ichi ddewis i ymuno ag ef.  Mae'r cais ar gael ar hyn o bryd i bawb ar RPW Ar-lein ac mae'n rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30 Tachwedd.  Dwi'n annog pob ffermwr i ystyried gwneud cais am y cymorth gwerthfawr hwn."