Wrth ymweld â rhai o sioeau amaethyddol Cymru bydd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn pwysleisio heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl i ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth, ac y bydd yn parhau i gefnogi ffermwyr ar ôl Brexit.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf gynigion ar gyfer cefnogi ffermwyr ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Bydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn creu ffrwd incwm sefydlog ar gyfer ffermwyr a fydd yn eu gwobrwyo am ganlyniadau amgylcheddol ac a fydd yn gwarchod y gallu i gynhyrchu bwyd yn yr hirdymor a'r amgylchedd er budd cenedlaethau'r dyfodol.
Bydd y Prif Weinidog a'r Gweinidog yn trafod y cynigion â ffermwyr, undebau a phartneriaid eraill yn Sioe Sir Benfro ddydd Mawrth ac yn Sioe Môn ddydd Mercher.
Byddant hefyd yn trafod y ffaith ei bod hi'n fwyfwy tebygol y bydd Llywodraeth y DU yn arwain y wlad allan o'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Hydref heb gytundeb ac yn nodi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud er mwyn helpu'r sector i baratoi ar gyfer hyn.
Bydd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, hefyd yn ymweld â Sioe Dinbych a Fflint ddydd Iau.
Gan siarad cyn y sioeau, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Mae'n amlwg fod Llywodraeth y DU yn ein harwain yn ddi-hid at Brexit Heb Gytundeb ac nid yw'n rhoi unrhyw ystyriaeth i'r effeithiau trychinebus a fyddai'n deillio o hyn, ac yn enwedig yng Nghymru.
"Byddai ymadael â'r UE heb gytundeb yn drychinebus i'n sector amaethyddol ac i'n cymunedau gwledig - nid yn unig yn Sir Benfro, Ynys Môn, Dinbych a Fflint ond ar draws Cymru gyfan.
"Dim ond Llywodraeth y DU a all atal Brexit Heb Gytundeb - mae'n rhaid iddi newid cyfeiriad ar unwaith er mwyn osgoi'r difrod hwn sy'n deillio o'i gweithredoedd ei hun ac na fydd modd o bosibl ei wyrdroi."
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
"Byddwn yn gwneud popeth posibl i ddiogelu dyfodol amaethyddiaeth yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth posibl er mwyn sicrhau dyfodol cadarn i'r sector.
"Bydd ein cynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn rhoi sicrwydd i ffermwyr, gan roi ffrwd incwm sefydlog iddynt ar ôl Brexit. Bydd y cynllun yn ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf yr ydym yn eu hwynebu heddiw, fel y newid yn yr hinsawdd, drwy wobrwyo ffermwyr am ganlyniadau amgylcheddol.
"Rwy'n edrych ymlaen at drafod ein cynigion ac at glywed sylwadau pobl yn y sioeau yr wythnos hon."
Meddai'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths:
"Ein nod yw sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer amaethyddiaeth yng Nghymru a'r amgylchedd. Diben ein cynigion ar gyfer Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw cyflawni hynny.
"Ni allwn gyflawni hyn ar ein pennau ein hunain, fodd bynnag. Rydym yn awyddus i gydweithio â ffermwyr fel y gallwn gynllunio'r cynllun gyda'n gilydd, gan sicrhau ei fod yn ymarferol ar lawr gwlad. Mae sioeau'r haf yn creu cyfle gwych i ni drafod ein cynlluniau a chlywed sylwadau pobl.
"Dyma ymgynghoriad ar gynigion a fydd yn sail i'n cynlluniau a bydd yn parhau hyd 30 Hydref. Hoffwn i annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud yn siŵr bod gan y diwydiant ffermio ddyfodol cynaliadwy ar ôl Brexit i ymateb i'r ymgynghoriad ac i fynegi ei farn.”