Neidio i'r prif gynnwy

Gyda 50 diwrnod ar ôl tan ddiwedd y cyfnod pontio, heddiw gwnaeth Jeremy Miles atgoffa’r cyhoedd y bydd newid sylweddol iawn y flwyddyn nesaf, ni waeth a fydd cytundeb ai peidio. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i geisio cyfyngu ar y niwed y bydd y newid hwn yn ei achosi i fywoliaethau yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gyda 50 diwrnod ar ôl tan ddiwedd y cyfnod pontio, heddiw gwnaeth Jeremy Miles atgoffa’r cyhoedd y bydd newid sylweddol iawn y flwyddyn nesaf, ni waeth a fydd cytundeb ai peidio. Dywedodd hefyd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ei gallu i geisio cyfyngu ar y niwed y bydd y newid hwn yn ei achosi i fywoliaethau yng Nghymru.

Dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, y bydd pob sefyllfa bosibl yn golygu newidiadau sylweddol – a allai gael effaith niweidiol ar ein pobl, ein cymunedau, a’n busnesau yn y tymor byr a’r tymor hir – ond bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n galed drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf i baratoi ar gyfer y newidiadau hynny, ac i liniaru eu niwed gymaint â phosibl.

Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd sy’n amlinellu’r gwaith paratoi hwnnw, ac sy’n nodi’r meysydd lle y mae ansicrwydd o hyd a meysydd y mae angen i Lywodraeth y DU a rhanddeiliaid eraill ganolbwyntio arnynt, cyn diwedd y cyfnod pontio.

Mae Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio yn disgrifio’r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn eu cymryd, yn annibynnol yn ogystal ag ar y cyd â Llywodraeth y DU, i sicrhau bod Cymru mor barod â phosibl ar gyfer unrhyw ganlyniad.

Dywedodd Jeremy Miles:

“Dim ond 50 diwrnod sydd nes inni ddechrau ar berthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd, felly mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau ein bod mor barod ag sy’n ymarferol bosibl, o ystyried y pwysau sydd arnom o ran prinder amser a’r gofynion i ymateb i’r pandemig COVID-19.

“Wrth baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, rydym wedi parhau i weithredu er lles ein gwlad; gan weithio gyda phartneriaid, busnesau a chymunedau lleol ledled Cymru i’w cefnogi wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf. Mae ansicrwydd a rhywfaint o bryder am y cam nesaf, ond hoffwn sicrhau pobl Cymru bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i’ch helpu drwy’r newidiadau sydd ar ddod.

“Ond rhaid inni gydnabod y cyfyngiadau gwirioneddol ar beth y gallwn ni ei wneud i leihau holl effaith absenoldeb cytundeb masnach, neu gytundeb masnach cyfyngedig, ar ôl y cyfnod pontio. Ac mae rhai o’r pethau y mae angen inni eu gwneud yn dibynnu ar gamau y mae Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdanyn nhw.

“Rydym yn gwybod ers dechrau’r flwyddyn bod Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio ar brosiectau blaenoriaeth ar gyfer paratoadau ledled y DU. Serch hynny, nid oeddem wedi gweld manylion y prosiectau hyn nes mis Mehefin. Ni ellir adennill y misoedd o amser paratoi a gollwyd o ganlyniad i hynny.

“Ar ben hyn ac er gwaethaf pwysau gennym ni a llawer o sefydliadau eraill, mae Llywodraeth y DU wedi gwrthod gwneud cais i estyn y cyfnod pontio, er bod y ddwy ochr yn wynebu sefyllfa ddigynsail yn sgil y pandemig byd-eang. Mae hyn wedi rhoi’r DU mewn sefyllfa lle y mae rhaid iddi wneud penderfyniadau cymhleth a radical ynghylch ei dyfodol pan fo cymdeithas eisoes yn wynebu ansicrwydd corfforol, meddyliol ac economaidd.

“Gellid bod wedi osgoi hyn – mae dull gweithredu Llywodraeth y DU wedi’i arwain gan ystyriaethau gwleidyddol tymor byr yn hytrach na buddiannau tymor hir y DU.

“Rydym yn parhau i annog Llywodraeth y DU i newid trywydd ac i flaenoriaethu swyddi, bywoliaethau a sicrwydd economaidd.

“Mae’r ansefydlogrwydd yn sgil COVID-19 yn effeithio ar bob un ohonom. Ond byddai ychwanegu at hynny drwy adael y cyfnod pontio heb gytundeb, neu gyda chytundeb cyfyngedig, yn fater o ddewis gwleidyddol gan Lywodraeth y DU.”