Mae Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru wedi datgan mai’r newid mwyaf o dan system gyfiawnder ddatganoledig fyddai poblogaeth lai mewn carchardai.
Nododd fod dedfrydau byr o garchar yn “wrthgynhyrchiol” wrth iddo bwysleisio manteision dewisiadau ar wahân i garcharu, a dywedodd y gellid ailfuddsoddi’r swm afresymol o arian sy’n cael ei wario ar garchardai mewn meysydd fel rhaglenni triniaeth.
Cafodd y sylwadau eu gwneud mewn araith i gynhadledd flynyddol Canolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru yn y Drenewydd yn gynharach heddiw, lle amlinellodd Mick Antoniw yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau newid o dan y system bresennol yn ogystal â’i weledigaeth ar gyfer system gyfiawnder ddatganoledig.
Cyfeiriodd at waith sydd eisoes ar y gweill i wella’r system gyfiawnder o dan y setliad cyfansoddiadol presennol, gan gynnwys Cytundeb Partneriaeth ar gyfer Iechyd mewn Carchardai, sy’n dwyn ynghyd bartneriaid allweddol i gyflawni amcan cyffredin o sicrhau y gall pobl yn y carchar fyw mewn amgylchedd sy’n hybu iechyd a lles.
Gan ddisgrifio’r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder yn un sydd “wedi’i phrofi”, dywedodd y byddai trosglwyddo cyfrifoldeb yn caniatáu mwy o ffocws ar ymdrin â chyfiawnder drwy ddull sy’n seiliedig ar hawliau, gan bwysleisio atal yn lle dedfrydu.
Gan amlinellu elfennau craidd system gyfiawnder ddatganoledig, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
“Y gwahaniaeth mwyaf o gymharu â’r sefyllfa bresennol fyddai y byddem yn gweithio i leihau poblogaeth carchardai. Yn benodol, byddem yn gwneud hyn drwy ddefnyddio dedfrydau byr – yr ydym wedi gweld eu bod yn wrthgynhyrchiol – i raddau llawer llai. Byddem yn mynd ar drywydd dewisiadau yn lle carcharu, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth yn sgil camddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
“Mae carchardai’n hynod ddrud i’w rhedeg, hyd yn oed cyn ichi ystyried y gost ddynol. Pe gallem gyflawni arbedion drwy leihau poblogaeth carchardai, gellid ailfuddsoddi’r arbedion hynny mewn rhaglenni triniaeth, neu mewn gwella cymorth cyfreithiol, neu pwy a ŵyr beth arall.”
Aeth yn ei flaen i ddweud:
“Ond, o ran lleihau poblogaeth carchardai, nid dedfrydu yw’r unig fater, na’r prif fater hyd yn oed. A daw hyn â mi at fy sylw olaf a phwysicaf ynghylch sut y byddai system gyfiawnder i Gymru yn wahanol.
“I ni, nid yw cyfiawnder yn ymwneud â chyfreithiau, llysoedd a chosbi. Mae’n ymwneud â phobl, teuluoedd a chymunedau. Does dim modd ei ystyried na’i gyflawni fel mater sy’n gwbl ar wahân i gyfiawnder cymdeithasol – sef trechu tlodi, anghydraddoldeb, tai, addysg, iechyd, gofal cymdeithasol, ac yn y blaen.
“Hyd nes y byddwn yn deall hyn, ni fyddwn byth yn gallu mynd i’r afael â’r materion sy’n achosi i gynifer o’n dinasyddion fynd ynghlwm yn y system gyfiawnder a dod yn ddibynnol arni. Ni fydd y system ei hun yn gallu mynd ati’n briodol ychwaith i ddarparu ymateb sy’n ceisio ymdrin â’r problemau hyn a gwella canlyniadau i unigolion ac i’n cymdeithas yn gyffredinol.
“Felly, drwy ddatganoli, gallem ganolbwyntio’n wirioneddol ar atal troseddu yn yr oedran pan fo cyfleoedd bywyd pobl wedi eu pennu leiaf ymlaen llaw – gan weithio gyda phlant a rhieni, gydag ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, a phawb sy’n gallu sicrhau bod plant ar y trywydd cywir yn gynnar yn eu bywydau.
“Ac os byddem yn sicrhau arbedion i’r system gyfiawnder drwy lwyddo i leihau troseddu, byddai hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr – byddai’r arbedion hynny’n cael eu hailfuddsoddi yng Nghymru.”
Yn ddiweddarach y mis hwn bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu cyhoeddiad ar adeiladu system gyfiawnder well i Gymru, gan archwilio’r themâu hyn yn fanylach.