Heno bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn tynnu sylw at rai o'r prif faterion y mae Cymru'n eu hwynebu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cynnal economi Gymreig gadarn ar ôl i'r DU adael Ewrop, gan gynnwys mynediad at y Farchnad Sengl; a darparu cyllid yn lle'r cyllid gan yr UE er mwyn cefnogi busnesau, cymunedau, gwaith ymchwil a buddsoddi ynghyd â'r angen i gynnal cysylltiadau rhyngwladol.

Bydd yr Athro Drakeford yn pwysleisio:

"Ers dechrau proses Brexit rydym wedi dadlau y dylai anghenion yr economi fod yn ystyriaeth graidd wrth i'r DU wynebu'r heriau sydd ynghlwm wrth adael yr UE.

"Rydym wedi pwysleisio'n benodol yr angen i gynnal y mynediad llawn at Farchnad Sengl yr UE; trefniadau pontio cadarn; cynnal y model cymdeithasol Ewropeaidd a hefyd yr angen i barhau i fod yn rhan o wahanol raglenni'r UE ar ôl Brexit gan gynnwys Horizon 2020 ac Erasmus+."

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd yn tynnu sylw at y trethi Cymreig cyntaf i gael eu cyflwyno ers bron i 800 o flynyddoedd - y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi, a fydd yn cymryd lle treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi ym mis Ebrill.

"Bydd y trethi newydd hyn yn cynnwys y trothwy cychwynnol uchaf ar gyfer cyfraddau preswyl yn y DU, a'r gyfradd gychwynnol isaf o dreth ar gyfer prynu safleoedd busnes yn y DU. Byddant yn sicr yn helpu aelwydydd incwm is a busnesau llai."

Bydd hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd datblygu seilwaith Cymru,

"Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i flaenoriaethu'i buddsoddiad mewn seilwaith ac mae'n polisïau sydd o blaid busnesau'n creu'r amodau cywir ar gyfer cefnogi'r economi a denu buddsoddiadau newydd i Gymru.

"Rydym wedi cefnogi 85 o brosiectau mewnfuddsoddi newydd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf a gallai hyn helpu i greu neu ddiogelu mwy nag 11,000 o swyddi. Llwyddodd Cymru i sicrhau 11% o gyfanswm y swyddi sy'n gysylltiedig â phrosiectau mewnfuddsoddi ar draws y DU.

"Mae Cymru'n wynebu cyfnod o newid economaidd sylweddol ac rwy'n falch iawn fod Llywodraeth Cymru'n gallu cefnogi busnesau drwy gyfnod o'r fath."