Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau heddiw (dydd Mawrth, 28 Medi) y bydd yn rhaid i ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol ystyried y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol a achosir gan newid hinsawdd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am y tro cyntaf yn y DU, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol sydd ar gael heddiw sydd nid yn unig yn dangos lefelau risg cyfredol, ond hefyd y risg a achosir gan newid hinsawdd.

Bydd y cyngor polisi cynllunio newydd a elwir yn Nodyn Cyngor Technegol 15, neu TAN 15 yn fyr, yn llywio cynlluniau datblygu lleol yn y dyfodol a phenderfyniadau ar geisiadau cynllunio mewn ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. 

Caiff ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau cynllunio lleol a datblygwyr i gyfeirio datblygiadau oddi wrth ardaloedd sydd mewn perygl o lifogydd ac erydu arfordirol.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

"Mae perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru yn cynyddu o ganlyniad i newid hinsawdd. 

“Mae llifogydd difrifol yn digwydd yn amlach, a bydd rhai ardaloedd lle mae’r risg yn fach ar hyn o bryd yn dod yn agored i lifogydd wrth i'n hinsawdd barhau i newid. 

“Fel y mae'r Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru yn ei gydnabod, gall y system gynllunio helpu cymunedau i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd drwy leoli datblygiadau mewn ardaloedd sydd i ffwrdd o berygl llifogydd. 

“Gall gwell gwybodaeth am y lleoedd a fydd mewn perygl yn y dyfodol helpu i gadw pobl yn ddiogel, drwy atal y difrod a'r tarfu ar gartrefi, gweithleoedd a seilwaith y gall llifogydd eu hachosi.”

Mae TAN 15 yn glir na ddylid lleoli datblygiadau newydd ar gyfer cartrefi, y gwasanaethau brys, ysgolion ac ysbytai mewn ardaloedd lle ceir risg uchel o lifogydd heb amddiffynfeydd llifogydd cryf. 

Os yw awdurdod cynllunio lleol yn bwriadu cymeradwyo unrhyw gynllun yn groes i’r cyngor hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu a gallant benderfynu ar y cais yn uniongyrchol.

Mae'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn nodi pedwar math o barth llifogydd, gyda phob parth yn cael cyngor penodol yn TAN 15 ar gyfer datblygiadau arfaethedig. 

Mae'r parthau llifogydd yn seiliedig ar lefelau risg cyfredol gan ychwanegu lwfansau ar gyfer newid hinsawdd.  Felly, maent yn cynnwys ardaloedd yr ystyrir eu bod yn debygol o fod mewn perygl o lifogydd yn y dyfodol, gan ei gwneud yn bosibl i benderfyniadau cynllunio roi ystyriaeth uniongyrchol i effaith ddisgwyliedig newid hinsawdd ar berygl llifogydd. 

Cyhoeddir y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a chaiff ei ddiweddaru ym mis Mai a mis Tachwedd bob blwyddyn, i adlewyrchu'r gwaith modelu a'r data diweddaraf ar beryglon llifogydd.

Ar gyfer pob datblygiad mewn ardaloedd lle ceir risg isel ac ardaloedd a ddiogelir gan amddiffynfeydd llifogydd cryf, ac ar gyfer datblygiadau llai agored i niwed mewn ardaloedd sydd â risg uchel o lifogydd, bydd sicrhau caniatâd cynllunio yn dibynnu ar basio'r profion derbynioldeb yn TAN15. 

Mae'r profion hyn yn cynnwys rhoi cyfiawnhad dros y lleoliad mewn ardal o dan risg o  lifogydd, bod ar dir llwyd a’r gallu i wrthsefyll achosion o lifogydd.

Mae'r TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar gael heddiw i ganiatáu i awdurdodau cynllunio a datblygwyr baratoi ar eu cyfer yn dod i rym ddydd Mercher, 1 Rhagfyr. 

O'r dyddiad hwnnw ymlaen, bydd yr holl geisiadau cynllunio sy'n aros am benderfyniad, a phob cais cynllunio newydd, yn cael eu hasesu yn erbyn y cyngor a'r map newydd. 

Rhaid i unrhyw Gynllun Datblygu Lleol sy'n cael ei adolygu ac sydd heb gyrraedd y cam archwilio ffurfiol eto hefyd ddefnyddio'r TAN 15 newydd a'r Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio ar ôl 1 Rhagfyr.