Neidio i'r prif gynnwy

Gallai tariffau dros dro Llywodraeth y DU ar fewnforion, a fyddai'n dod i rym pe byddai Brexit Heb Gytundeb, yn golygu y gallai porthladdoedd Cymru ddioddef, yn ôl Ken Skates, Gweinidog yr Economi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth y DU wedi datgelu dull dros dro o osgoi gwiriadau a rheolau newydd ar nwyddau ar y ffin â Gogledd Iwerddon ar y tir, pe byddai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb. 

Mewn sefyllfa o’r fath, ni fydd tariffau dros dro y DU yn berthnasol i nwyddau sy'n croesi o'r Iwerddon i Ogledd Iwerddon. Mae hefyd yn annhebygol y bydd gwiriadau rheolaidd ar nwyddau sy'n teithio rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain Fawr, gan o bosibl gymell cludwyr i deithio drwy Ogledd Iwerddon yn hytrach na chymryd y llwybrau uniongyrchol ar y môr rhwng Iwerddon a Chymru. 

Meddai Ken Skates: 

"Nid oes neb yn ennill mewn sefyllfa o Brexit heb gytundeb.  Nid oes opsiynau da i bolisi tariff heb gytundeb fydd yn golygu bod tariffau yn cael eu codi ar fewnforion o'r UE. 

"Mae cyhoeddiad Llywodraeth y DU yn gynharach yr wythnos hon yn dangos hyn yn amlwg.  Os bydd yn bosibl i nwyddau deithio rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon heb dariff, gallai hyn gael effaith ar borthladdoedd megis Caergybi, sydd â chysylltiad uniongyrchol a'r Iwerddon a ble y byddai tariffau o dan y cynlluniau hyn. 

"Mae hyn yn dangos yn amlwg ffolindeb Brexit heb gytundeb, a'r effaith a gaiff hyn o bosibl.  Wrth i'r amser agosáu tuag at ddiwrnod ymadael â’r UE, mae'n bryd cael gwared ar yr opsiwn hwn unwaith ac am byth.

"Y ffordd orau o ddiogelu ein heconomi a'n swyddi yw i ymrwymo i berthynas economaidd hirdymor fwy clos, fel a amlinellir yn ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru.  

"Mae'n amser cael gwared ar y bygythiad o ddim cytundeb a'r niwed mawr fydd hynny’n ei achosi yng Nghymru a’r DU.  Mae'n rhaid inni weithio ar berthynas agosach yn yr hirdymor gyda'r UE a fyddai'n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl."

Bu Aelodau Seneddol yn pleidleisio yn gynharach wythnos yma yn Nhŷ’r Cyffredin yn erbyn Brexit heb gytundeb, ond mae’n parhau i fod yr opsiwn diofyn yn gyfreithiol os bydd y DU yn methu â sicrhau cytundeb ymadael â’r UE.