Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'r symiau uchaf erioed mewn cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru ar gyfer 2021/22, gan barhau i leihau'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol i gymunedau, wrth i effaith yr argyfwng hinsawdd parhaus barhau i ddod i’r amlwg.
Rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd 2021 i 2022
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £36miliwn – y swm uchaf o arian cyfalaf i’w ddarparu mewn un flwyddyn – i gynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru i'w helpu i fuddsoddi mewn amddiffynfeydd newydd, gwaith cynnal a chadw a chynlluniau rheoli llifogydd drwy ddulliau naturiol.
Daw'r cyllid newydd yma ar ddiwedd tymor y Senedd lle mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mwy na £390 miliwn mewn gwariant cyfalaf a refeniw i helpu i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd ac erydu arfordirol. Mae dros 45,000 o gartrefi a busnesau wedi elwa ar y cyllid hwn. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad mawr i gefnogi'r Rhaglen Rheoli Perygl Arfordirol sydd werth dros £150 miliwn.
Cyhoeddwyd yr arian heddiw (dydd Gwener, 19 Mawrth) gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Fel rhan o’r Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol (FCERM) bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn £17m – a bydd mwy na £7m yn cael ei fuddsoddi mewn gweithgareddau llifogydd craidd gan gynnwys prosiectau cynnal a chadw a mapio - a bydd Awdurdodau Lleol yn derbyn £19m.
Bydd prosiectau amddiffyn rhag llifogydd a gefnogir yn rhaglen 2021/22 yn helpu i leihau'r perygl i gymunedau mewn ardaloedd gan gynnwys Treorchi, Dyserth, Rhydaman, Glyn-nedd a Llansannan.
Bydd y rhaglen lawn ar gael ar-lein, ac fe'i dilynir gan fap sy'n dangos lledaeniad cynlluniau ledled y wlad.
Yn ogystal â chyllid cyfalaf ar gyfer cynlluniau, darperir £29.4 miliwn mewn refeniw i gefnogi gwaith ehangach ein Hawdurdodau Rheoli Risg, gan gynnwys staffio, allgymorth a gweithgareddau cynnal a chadw, sy’n golygu bod cyfanswm y buddsoddiad yn 2021/22 werth £65.4 miliwn.
Mae llifogydd a welwyd ledled Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi amlygu'r angen am gefnogaeth barhaus i gymunedau sy'n wynebu mwy o berygl llifogydd – yn enwedig gan fod effaith barhaus yr argyfwng hinsawdd yn golygu bod achosion o lifogydd difrifol yn fwy tebygol yn y blynyddoedd i ddod.
Bydd llwyddiannau yn Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol y llynedd yn parhau hyd at 2021/22, gan gynnwys:
- Cynnal cefnogaeth i CLlLC; Canolfan Monitro Arfordir Cymru a'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol;
- 100% o gyllid grant i Awdurdodau Lleol fel y gallant baratoi cynlluniau newydd, gan gynnwys achosion busnes, ymgyngoriadau a gwaith dylunio (arweiniodd y dull hwn at gynnydd o draean yn nifer y ceisiadau o 2020/21)
- Cynyddu'r cyfraniad ariannol ar gyfer cyflawni prosiectau arfordirol o 75% i 85%
- Cyllid o 100% ar gyfer y Rhaglen Rheoli Llifogydd Naturiol (NFM) - gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy i leihau'r perygl o lifogydd, gyda 15 prosiect gwerth £2.8m yn parhau.
- £4m ar gyfer atgyweirio asedau lliniaru llifogydd a ddifrodwyd – yn ogystal â £5m a ddarparwyd y llynedd
- £4m arall i gefnogi'r Grant Gwaith Ar Raddfa Fach, gan alluogi awdurdodau lleol i fynd i'r afael â pherygl llifogydd drwy gynlluniau lliniaru llifogydd llai – cefnogi 86 o brosiectau ledled Cymru, a bod o fudd i fwy na 1,700 o eiddo.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
"Y llynedd, gwelsom olygfeydd ofnadwy o lifogydd ledled Cymru – gyda rhai cymunedau'n profi Llifogydd mwy nag unwaith. Roedd pandemig COVID-19 yn golygu bod effaith llifogydd hyd yn oed yn anoddach i ddelio ag ef nag arfer, a daeth ymateb i lifogydd yn anoddach.”
"Wrth i Gymru geisio mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng hinsawdd, mae'n rhaid i ni hefyd ddelio â'i effeithiau, a helpu cymunedau i ymateb i'r tebygolrwydd cynyddol o dywydd garw. Yn anffodus, nid yw llifogydd 'unwaith mewn oes' bellach yn digwydd unwaith mewn oes.
"Bydd y cyllid mwyaf erioed sef £65.4 miliwn a ddarperir drwy ein Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Arfordiroedd ar gyfer 2021/22 yn helpu i gefnogi cymunedau ledled Cymru wrth iddynt ymateb i fwy o berygl llifogydd, a daw ar ddiwedd tymor y Senedd lle y mae’r cyllid mwyaf erioed wedi’i fuddsoddi mewn cynlluniau llifogydd ac arfordirol.
"Mae hyn wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru drwy gydol y tymor hwn, ac rwy'n falch o'n llwyddiant hyd yma o ran lleihau'r perygl i gymunedau ledled Cymru o effeithiau dinistriol llifogydd ac erydu arfordirol."