Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi ymweld â'r gwneuthurwr cerbydau rheilffordd Vivarail, i weld trenau newydd Trafnidiaeth Cymru a fydd yn trawsnewid profiad defnyddwyr rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r trenau'n rhan o fuddsoddiad o £5 miliwn mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud ledled Cymru â'r Gororau, a disgwylir i'r rhai cyntaf ddechrau cael eu defnyddio yng Ngogledd Cymru yn ystod 2019. 

Gyda thai bach sy'n llawn hygyrch, socedi trydan, gwybodaeth electronig i deithwyr, Wi-Wi, raciau beiciau ac aerdymheru, mae'r trenau'n garreg filltir arwyddocaol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru, wrth iddynt barhau i weithredu eu cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau rheilffordd ledled Cymru a'r Gororau. 

Bydd y trenau ychwanegol yn darparu gwasanaethau sy'n fwy effeithlon ac yn well i'r amgylchedd, drwy ddefnyddio injans diesel-trydan modern. Yr unedau hybrid newydd, sy'n defnyddio diesel a batris, fydd y cyntaf i gael eu defnyddio ar gyfer gwasanaeth rheolaidd i deithwyr yn y DU.  

Bydd i bob trên dri cherbyd, sy'n cynnwys 125 sedd yr un, gyda chyfanswm capasiti o 293. Gogledd Cymru fydd y lle cyntaf i elwa ar y trenau newydd sydd wedi cael eu hychwanegu at y fflyd ar hyd y rheilffyrdd rhwng Wrecsam a Bidstone, Crewe a Chaer a Llandudno a Blaenau Ffestiniog. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Mae wedi bod yn wych ymweld â'r cwmni sy'n gwneud ein cerbydau rheilffyrdd, Vivarail, a gweld trenau Trafnidiaeth Cymru a fydd yn cael eu defnyddio ar reilffyrdd yng Ngogledd Cymru yn hwyrach eleni.

"Rydyn ni wedi cael y cyfle i deithio ar y trenau ar gledrau profi Vivarail, a chael dealltwriaeth dda o'r injan hybrid. Nid yn unig bydd y rhain yn trawsnewid y profiad teithio ar gyfer defnyddwyr rheilffyrdd yng Ngogledd Cymru – byddan nhw'n defnyddio 25 y cant llai o danwydd ac yn cynnwys system frecio atgynhyrchiol sy'n creu ynni a'i drosglwyddo i'r batris.

"Mae'n trenau modern hyn yn dangos ein hymrwymiad i gynaliadwyedd a'r amgylchedd, yn ogystal â'n cynlluniau uchelgeisiol i drawsnewid y profiad ar gyfer holl ddefnyddwyr ein rheilffyrdd.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n gryf i wella ein gwasanaethau rheilffyrdd, a thrwy ein buddsoddiad rwy'n hyderus y bydd pobl ledled Cymru, yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn elwa ar y gwasanaeth rheilffyrdd gorau yn y DU ar gyfer teithwyr, a fydd yn newid sylweddol hanfodol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd."

Ychwanegodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

"Mae cwsmeriaid yn ganolog i bopeth mae Trafnidiaeth Cymru yn ei wneud.  Mae ein trenau newydd, sy'n cynnwys injans hybrid a chyfleusterau modern, yn gwella profiad y cwsmer.

"Rydyn ni'n parhau ar ein taith i drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a gwneud yr hyn rydyn ni wedi addo. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl staff a phartneriaid, sy'n ein helpu ni i wireddu ein gweledigaeth.