Bydd bwriad Llywodraeth Cymru i roi terfyn ar gosb gorfforol i blant yng Nghymru yn helpu i gyflawni’r nod o ddiogelu eu hawliau, yn ôl ymgynghoriad a gynhaliwyd.
Bydd y Gweinidog dros Blant Huw Irranca-Davies yn cyhoeddi heddiw grynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ynghylch ei chynlluniau i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol.
Bwriad yr ymgynghoriad a gafodd ei lansio ym mis Ionawr ac a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2018 oedd cael adborth gan y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu ymhellach Fil a helpu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei datblygu.
Cafwyd mwy na 1,890 o ymatebion i'r ymgynghoriad gan wahanol unigolion, sefydliadau a grwpiau. Roedd mwy na 270 o bobl wedi mynd hefyd i un o'r digwyddiadau ymgysylltu a gynhaliwyd ledled Cymru.
Yn ôl yr ymgynghoriad, roedd ychydig dros hanner (50.3%) yn cytuno, a 48.1% yn anghytuno â'r datganiad y bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn helpu i ni gyrraedd y nod o ddiogelu hawliau plant. Dywedodd 1.5% nad oedden nhw'n gwybod.
Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i ddileu amddiffyniad cosb resymol yn ystod trydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol (rhwng mis Medi 2018 a mis Gorffennaf 2019).
Dywedodd Huw Irranca-Davies:
"Fel llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu amddiffyniad cosb resymol a fydd yn gwahardd rhieni rhag cosbi eu plant yn gorfforol a hefyd y rhai hynny sy'n gweithredu in loco parentis. Mae hynny'n dangos ein hymrwymiad cadarn i hawliau plant.
“Bwriad yr ymgynghoriad a gafodd ei lansio yn gynharach eleni oedd ein helpu ni i lywio'r gwaith o ddatblygu ein cynigion deddfwriaethol gan sicrhau ein bod ni'n datblygu'r ddeddfwriaeth orau i'n helpu ni i gyrraedd ein nod. Hoffwn i ddiolch i bawb a wnaeth roi o'u hamser i ymateb. Byddwn ni'n ystyried yr ymatebion wrth ddatblygu'r Bil.
“Er bod gan rieni y prif gyfrifoldeb dros fagu eu plant, mae gan Lywodraeth Cymru rôl benodol iawn mewn perthynas â chreu cymdeithas y gall plant gael eu magu ynddi sy'n ddiogel ac yn gefnogol.
"Mae ein hymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth, ynghyd â chynnig cefnogaeth i rieni, yn allweddol i'n llwyddiant yn hyn o beth."
Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu'r Bil fel rhan o becyn llawer ehangach o gymorth i blant a'u rhieni. Mae hyn yn cynnwys:
- yr ymgyrch Magu Plant: Rhowch amser iddo sydd â'r nod o helpu rhieni i wneud eu gorau drwy roi awgrymiadau a gwybodaeth bositif am fagu plant
- amrywiaeth o wasanaethau sy'n hyrwyddo rhianta cadarnhaol gan lywodraeth leol a'r meysydd iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, cyfiawnder cymdeithasol a'r trydydd sector
- mwy o ymyriadau fel y rhaglenni Dechrau’n Deg a Theuluoedd yn Gyntaf sy'n cynnig cymorth a chyngor i rieni.