Bydd prosiect newydd i gefnogi'r rheini sy'n gadael y carchar i symud i lety arall yn helpu i dorri ar gylch carchar a digartrefedd yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf.
Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi cyhoeddi £273,000 i gefnogi dynion sy'n gadael carchar EM Caerdydd, a menywod sy'n gadael carchar EM Eastwood Park, Swydd Gaerloyw, gan gynnwys 10 o lefydd Tai yn Gyntaf a ddarperir gan Gyngor Caerdydd. Caiff y cyllid ei ddefnyddio hefyd i ddatblygu prosiect tai i gefnogi'r rheini sy'n gadael y carchar i symud i lety sefydlog yn Rhondda Cynon Taf.
Nod Tai yn Gyntaf yw cefnogi pobl sydd angen cryn gymorth i'w cadw eu hunain rhag digartrefedd. Cynigir lle i fyw i bobl sy'n derbyn cymorth, ac yna cynigir cymorth hirdymor wedi'i deilwra iddynt i'w helpu i ymdopi'n annibynnol â thenantiaeth.
Dywedodd Julie James:
Dw i am weld diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Yn y lle cyntaf, mae'n rhaid inni warchod pobl rhag colli eu cartref yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael â'r cylch hwnnw rydym yn ei weld yn barhaus, lle mae pobl yn gadael y carchar ac yn eu cael eu hunain ar ein strydoedd.
Fe wnes i ymweld â charchar Caerdydd yn gynharach eleni a siarad â charcharorion a oedd yn dweud wrthyf i am y patrwm o gael eich rhyddhau i'r stryd, â nunlle i fynd, am aildroseddu a mynd yn syth yn ôl i'r carchar.
Nid dyma'r ffordd i fyw ac nid dyma'r ffordd i redeg y system. Gall atal digartrefedd drwy brosiectau fel Tai yn Gyntaf helpu unigolion i gael trefn ar eu bywydau, a sicrhau ein bod yn defnyddio cyllid cyhoeddus yn fwy effeithiol.
Dywedodd Ian Barrow, Cyfarwyddwr Y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol yng Nghymru:
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru sy’n gyfrifol am sicrhau bod pawb sy’n cael eu dedfrydu i orchymyn cymunedol neu i fynd i’r carchar yng Nghymru yn cael cymorth i ddod o hyd i lety diogel ar ddiwedd y cyfnod neu ar ôl cael eu rhyddhau. Rydyn ni’n gwybod bod llety sefydlog ar ôl gadael y carchar yn ffactor hollbwysig er mwyn lleihau aildroseddu a gwarchod y cyhoedd, ac mai dyma’r cyfle gorau i’r rheini sy’n gadael y carchar i ailintegreiddio a gwneud newidiadau cadarnhaol sy’n para. Mae prosiect Tai yn Gyntaf Carchardai Caerdydd ac Eastwood Park Ei Mawrhydi a chynllun peilot Tai Rhondda Cynon Taf yn dynodi dechrau ymrwymiad cydweithredol hirdymor i ddarparu amrywiaeth o opsiynau tai arloesol a chynaliadwy sy’n ymateb i’r peryglon a’r anghenion sy’n wynebu’r rheini sy’n cael eu dedfrydu i orchymyn cymunedol neu i fynd i’r carchar yng Nghymru.