Bydd pob myfyriwr israddedig cymwys yng Nghymru sy’n dechrau yn y brifysgol eleni yn gallu gwneud cais am becyn cymorth ariannol newydd a fydd yn eu helpu i dalu costau byw.
Dyma’r cyntaf o’i fath yn y DU, a bydd yn helpu myfyrwyr pan fyddan nhw angen hynny fwyaf, gan gydnabod mai costau fel costau llety yw’r prif rwystr i’r rhai sy’n ceisio penderfynu a allant fynd i brifysgol ai peidio.
Y pecyn cyllid newydd i fyfyrwyr, a lansiwyd gan Lywodraeth Cymru, yw’r pecyn mwyaf hael yn y DU a’i fwriad yw rhoi mwy o gymorth tuag at dalu costau byw drwy ddarparu’r hyn sy’n gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol drwy gyfuniad o grantiau nad oes rhaid eu had-dalu a benthyciadau. Mae hyn yn golygu bod myfyrwyr yn gallu canolbwyntio ar eu hastudiaethau yn lle poeni am gael dau ben llinyn ynghyd.
Gydag Wythnos Genedlaethol Arian Myfyrwyr yn agosáu (12-16 Chwefror), mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch ymwybyddiaeth i hyrwyddo manteision prifysgol yn sgil y ffaith fod mwy o gymorth ariannol ar gael. Mae cymeriad sy’n fwystfil arian yn cyflwyno’r ymgyrch. Unig bwrpas y cymeriad yw atal myfyrwyr rhag mynd i brifysgol, ac os ydynt yn mynd i brifysgol, amharu ar eu bywyd drwy ychwanegu pwysau diangen arnynt.
Elfen allweddol o’r pecyn cyllid newydd i fyfyrwyr yw ei fod yn cynnig pecyn cryfach o gymorth i fyfyrwyr sydd am astudio’n rhan-amser, gan sicrhau bod myfyrwyr israddedig llawn amser a rhan-amser yn cael yr un cyfleoedd. Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i ddarparu cymorth cyfwerth ar gyfer costau byw – mewn grantiau a benthyciadau – i fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan-amser, yn ogystal ag ôl-raddedigion.
Nod hyn yw annog myfyrwyr o bob cefndir i fynd i addysg uwch, waeth a ydynt mewn gwaith llawn amser, yn magu teulu neu os oes ganddynt gyfrifoldebau gofalu. Bydd myfyrwyr rhan-amser yn derbyn cymorth cyfwerth ar sail pro-rata.
Mae’r Arolwg Incwm a Gwariant Cenedlaethol* diweddaraf yn dangos bod gan un o bob tri myfyriwr sy’n hanu o Gymru orddrafft, bod gan bron i un o bob pum gredyd masnachol a bod un o bob deg mewn dyled.
Mae’r pecyn cyllid newydd i fyfyrwyr ar gyfer y rhai sy’n cychwyn fel israddedigion yn 2018/19 yn mynd i’r afael â’r materion hyn drwy ysgafnhau rhwystrau ariannol i fyfyrwyr, sy’n golygu bod gan fyfyrwyr llawn amser a rhan-amser ddigon o arian i dalu eu costau byw bob dydd wrth astudio.
Gall pob myfyriwr cymwys hawlio isafswm grant o £1,000 na fydd yn rhaid ei ad-dalu, waeth beth fo incwm y cartref. Mae hyn yn rhan o gymysgedd cyffredinol o grantiau a benthyciadau ar gyfer costau byw sy’n gyfwerth â derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol, sydd ar gael i bob myfyriwr cymwys pan fydd yn astudio.
Bydd grantiau yn dibynnu ar brawf modd er mwyn cefnogi’r rhai sydd eu hangen fwyaf. Y rhai o gartrefi â’r incwm isaf fydd yn derbyn y grant uchaf - hyd at £10,124 yn Llundain a £8,100 yng ngweddill y DU. Mae’n debygol y bydd tua thraean o fyfyrwyr llawn amser yn gymwys i dderbyn y grant llawn. Gall myfyrwyr sy’n derbyn grant llai gael benthyciad i ychwanegu at y swm maent yn ei dderbyn, sy’n gyfwerth â lefel y Cyflog Byw Cenedlaethol.
Mae incwm cartref cyfartalog myfyriwr dibynnol yn y system gyfredol tua £25,000. O dan y system newydd bydd myfyriwr o’r fath yn derbyn tua £7,000 y flwyddyn mewn grant nad oes rhaid ei ad-dalu.
Cynlluniwyd y pecyn cymorth ariannol newydd i fyfyrwyr Cymru yn dilyn argymhellion adolygiad o gyllid addysg uwch dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond. Canfu’r adolygiad mai costau byw oedd y prif rwystr wrth geisio gwneud penderfyniad am fynd i brifysgol ai peidio.
Mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru’n dangos bod myfyrwyr Cymru’n gwario 46% o’u hincwm myfyriwr ar eu cwrs a 37% ar fyw. 18% oedd yn cael ei wario ar lety.
Meddai Ysgrifennydd Addysg Cymru, Kirsty Williams:
“Mae’n amlwg bod arian yn ffactor pwysig iawn wrth benderfynu pryd i fynd i brifysgol, ac mae arian yn un o’r prif faterion sy’n achosi straen ymysg y rhai sy’n astudio’n barod.
“Gan ystyried hyn, rydym wedi creu pecyn newydd o gymorth i leddfu’r pryderon hyn sydd gan rieni a myfyrwyr. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau heb orfod poeni am sut maen nhw’n mynd i fforddio eu costau byw bob dydd.
“Mae’r cymorth mae myfyrwyr Cymru, sy’n astudio’n unrhyw le yn y DU, yn gallu gwneud cais amdano nawr yn gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Yn ogystal, ni fydd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr gostau i’w talu ymlaen llaw gan fod modd tynnu benthyciad ffi dysgu o’r grant neu fenthyciad i dalu am eu cwrs.
“Mae’n bwysig cofio mai dim ond pan fydd benthycwyr yn ennill dros £25,000 y flwyddyn mae angen ad-dalu benthyciad myfyriwr. Gall ad-daliadau ddechrau ar gyn lleied â £30 y mis.
“Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i fynd i brifysgol. Rwyf am i bawb sydd â’r ddawn, y potensial a’r uchelgais i gael y cyfle hwnnw. Boed yn astudio’n llawn amser neu’n cyfuno hynny gyda’ch gyrfa ac astudio’n rhan-amser, dylai prifysgol fod yn opsiwn i bawb, waeth beth yw eich cefndir neu’ch incwm.”
Bydd yr hysbysebion teledu’n ymddangos ar ITV Wales, S4C, Sky Regional, ITV Player ac All4 o 5 Chwefror ymlaen.
Am ragor o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/arianmyfyrwyr